Mae llawer o resymau da i chi i ddefnyddio'r Gymraeg yn eich busnes, a ph'un a ydych yn fenter fawr neu fach, mae mwy o gymorth nag erioed o'r blaen i helpu.
Gall defnyddio'r Gymraeg gael effaith fawr ar dy fusnes. Ac mae Helo Blod yma i roi help llaw yn rhad ac am ddim.
Mae’r cynllun Iaith Gwaith a'r bathodyn swigen oren yn dangos eich bod yn siarad Cymraeg. Archebwch eich bathodynnau ac arwyddion ‘Cymraeg’: Iaith Gwaith (comisiynyddygymraeg.cymru)
Ydych chi eisiau defnyddio mwy o Gymraeg yn eich busnes neu elusen? Am ragor o wybodaeth, ewch i Busnesau ac elusennau (comisiynyddygymraeg.cymru)
Cymerwch olwg ar yr addroddiad Defnyddio'r Gymraeg - yr achos busnes. Mae'r adroddiad hwn ar gyfer arweinwyr busnes sydd am ddatblygu neu ehangu yng Nghymru. Mae'n edrych ar y galw gan gwsmeriaid am wasanaethau Cymraeg, barn arweinwyr busnes a sut gall y Comisiynydd eich helpu i dyfu a ffynnu: defnyddior gymraeg yr achos busnes.pdf (comisiynyddgymraeg.cymru)
Dilynwch ni yn Gymraeg ar Twitter, Facebook ac Instagram. Cofrestrwch yma os hoffech dderbyn ein cylchlythyr busnes pythefnosol.