BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Fframwaith Economaidd Canolbarth a De-orllwein Cymru

Gweledigaeth ar y cyd ar gyfer ein heconomi

Mae Fframweithiau Economaidd Rhanbarthol Canolbarth a De-orllewin Cymru yn rhan annatod o’n hymrwymiad i lunio model o ddatblygu economaidd, sy’n seiliedig ar leoedd, lle rydym yn gweithio gyda chryfderau penodol ein rhanbarthau ac yn adeiladu arnynt. Maent yn nodi nid yn unig yr hyn sy’n rhaid inni ei wneud, ond sut. Maent yn canolbwyntio nid yn unig ar y penderfyniadau y mae’n rhaid inni eu gwneud, ond sut mae’n rhaid inni eu gwneud. Byddant hefyd yn nodi’r rolau y mae gennym ni oll i’w chwarae, a’n cyfrifoldebau, os ydym am wireddu ein gweledigaeth ar gyfer yr economi yn y dyfodol.  

Mae’r fframweithiau wedi cael eu llunio drwy waith ymgysylltu ag amrywiaeth eang o bartneriaid, gan gynnwys awdurdodau lleol a chyrff rhanbarthol, yn ogystal â mewnbwn oddi wrth y sector preifat. Maent yn seiliedig ar dystiolaeth a chytundeb, ac yn cynnwys blaenoriaethau clir sy’n cyd-fynd â’n fframwaith ar gyfer buddsoddi rhanbarthol, y genhadaeth economaidd ac, wrth gwrs, y Rhaglen Lywodraethu. Mae’r dull aeddfed hwn yn adeiladu ar sylfeini’r cynllun Ffyniant i Bawb  gan Lywodraeth Cymru, sef ei chynllun gweithredu ar yr economi ar gyfer Cymru gyfan, sy’n amlinellu’r sail ar gyfer sicrhau llais rhanbarthol cryfach yn natblygiad economaidd Cymru, a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru feddwl am effaith eu penderfyniadau dros yr hirdymor a gwella’r ffordd y maent yn gweithio gyda phobl, gyda chymunedau a chyda’i gilydd.

Gan weithio ochr yn ochr ag ALlau partner allweddol a rhanddeiliaid ehangach, bydd swyddfa ranbarthol Canolbarth a De-orllewin Cymru yn dechrau cwmpasu’r cyfnod nesaf o weithgareddau sy’n ymwneud â’r Fframweithiau Economaidd Rhanbarthol, gan fanylu ar sut y gellir gweithredu a chyflawni’r Fframweithiau hyn. Bydd y swyddfa hefyd yn ystyried fframweithiau mesur priodol sy’n mynd y tu hwnt i fesuriadau traddodiadol er mwyn casglu gwybodaeth ehangach am lesiant economaidd, sy’n cyd-fynd â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). Yn ogystal, gall ymgysylltu â rhanddeiliaid ac ennyn eu cyfranogiad yn barhaus sicrhau ein bod yn parhau i fabwysiadu egwyddorion cydgynhyrchu yn ein dull o ymdrin â datblygu economaidd rhanbarthol.  

Cafodd y ddogfen ymwneud â rhanddeiliaid a sicrhau cyfranogiad isod ei llunio cyn dechrau pandemig COVID-19. Er bod llawer wedi newid yn ein rhanbarth, yng Nghymru ac yn y byd ers hynny, mae’n dal i ddarparu manylion a mewnwelediad gwerthfawr i gefnogi ein sgyrsiau yn ystod y broses hon o ymgysylltu a chydgynhyrchu. 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.