BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

GLOBAL OFFSHORE WIND – MANCEINION

Bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan mewn nifer o arddangosfeydd busnes i fusnesau, cynadleddau, teithiau masnach ac ymweliadau â'r farchnad allforio, yng Nghymru, y DU a ledled y byd i hyrwyddo busnesau  a leolir yng Nghymru a Chymru. 

Bydd hyn yn creu cyfleoedd i fusnesau sydd wedi eu lleoli yma ac i gymryd rhan o dan baner Cymru. 

Mae pob cyfle yn amodol ar broses ymgeisio.  Mae'r manylion ar gyfer y digwyddiad nesaf i'w gweld isod:

Global Offshore Wind (GOW24), Manceinion 

Mae Global Offshore Wind 2024 (GOW24) yn ddigwyddiad pwysig yng nghalendr y sector gwynt ar y môr.  Dyma'r digwyddiad gwynt ar y mor pwrpasol mwyaf yn y DU i gael gwybodaeth werthfawr o'r farchnad a strategaethau busnes ymarferol sydd wedi'u cynllunio i gefnogi'r frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd. 

Bydd GOW24 yn un o ddigwyddiadau mawr cyntaf yr Haf yn y calendr i ailgysylltu cydweithwyr, busnes a'r llywodraeth gyda'r nod o alluogi arloesedd twf busnes strategol, yn ogystal â chadw'n gyfredol â deallusrwydd y farchnad yn uniongyrchol gan ddatblygwyr a'r gadwyn gyflenwi.

Pam dod? 

Gall arddangos gyda Llywodraeth Cymru fod yn ffordd gost-effeithiol iawn o arddangos eich cwmni ar lwyfan byd eang, cael cysylltiadau gwerthfawr ac o bosibl creu busnes yn y sector hwn.

Byddwch yn elwa o:

  • Pod wedi'i frandio mewn safle gwych ar bafiliwn Cymru gyda chyflenwad pŵer a mynediad i storfa. 
  • Mynediad i fan cyfarfod ar stondin.
  • O leiaf un tocyn arddangoswr drwy gydol y digwyddiad.
  • Cynnwys yn neunydd marchnata lle bo ar gael.
  • Cynnwys yn amserlen cyfryngau cymdeithasol Cymru a chyfleoedd cysylltiadau cyhoeddus posibl.
  • Cynnwys mewn digwyddiadau rhwydweithio cysylltiedig.
  • Ymgysylltu â busnesau allweddol a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn y digwyddiad, gan gynnwys eich cyd-bartneriaid ar y stondin.
  • Cyfrifoldeb am ofal y stondin yn disgyn i weithwyr digwyddiadau profiadol a gweithwyr marchnata proffesiynol.

Cost – £750.00

Oherwydd mai nifer cyfyngedig  o lefydd sydd ar gael ar gyfer yn arddangosfa hon, cofrestrwch yn gynnar er mwyn osgoi siom. Rydym yn gwahodd amrywiaeth o fusnesau i gyd-arddangos gyda ni. 

Manylion y Digwyddiad

Enw'r digwyddiad:

Global Offshore Wind (GOW24)

Lleoliad:

Manchester Central Convention Complex Ltd

Windmill St

Petersfield

M2 3GX

Dyddiad:

18-19 Mehefin 2024

Maint y digwyddiad:

260+ o arddangoswyr, 5,000+ o ymwelwyr o 50+ o wledydd, 200+ o siaradwyr  ac mae gan Lywodraeth Cymru le ar gyfer 3 cwmni sy'n llwyddo neu'n edrych ar gyfleoedd ynni gwynt ar y môr.

Sector(au):

Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel, AI, Logisteg, Cynhyrchion a Gwasanaethau, Amgylcheddol

Beth ydw i'n ei wneud nesaf?

Lawr lwythwch y cais, ei gwblhau a'i ddychwelyd i Cheryl.Whitaker@gov.wales a chopïo PrifSwyddogRhanbartholYGogledd@llyw.cymru

Dyddiad cau ar gyfer Ceisiadau:

12:00, 8fed o Fai 2024

Adnoddau

I ddod i wybod mwy (mae rhain yn Saesneg yn unig gan nad ydynt yn nwylo Llywodraeth Cymru):

Gwefan

Trosolwg (renewableuk.com)

X (Twitter)

RenewableUK Events (@RUKEvents) / X (twitter.com)

Facebook

RenewableUK | Facebook

LinkedIn

RenewableUK | LinkedIn

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.