BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Aforza

aforza office

 

Fe wnaeth Arloesi SMART helpu Aforza

  • I adeiladu capasiti ymchwil a datblygu mewnol 
  • I atynnu talent o’r radd flaenaf i dyfu ei adran AI 
  • I lansio ac integreiddio deallusrwydd artiffisial yn llwyddiannus i’w apiau symudol a’r cwmwl 

Aforza yw’r datrysiad cwmwl a symudol arweiniol sydd wedi ei ddatblygu’n bwrpasol i’r diwydiant nwyddau defnyddwyr, ac mae’n grymuso busnesau o bob maint i werthu mwy a thyfu’n gynt gyda thechnoleg deallusrwydd artiffisial (AI), diolch i’r cyllid a’r cymorth y bu iddo ei dderbyn gan raglen Arloesi SMART Llywodraeth Cymru a ariennir gan yr UE. 

Dewisodd y cwmni, a sefydlwyd ym mis Ebrill 2019, i leoli ei adran ymchwil a datblygu yng Nghymru, gan sicrhau mynediad at brifysgolion Cymru a’u graddedigion dawnus. Hyd yma, y cwmni yw’r unig werthwr meddalwedd annibynnol sy’n ysgrifennu AI sy’n gallu ehangu’n gyflym neu beiriant dysgu algorithmau ar gyfer rhagweld yn y cwmwl ar gyfer y farchnad nwyddau defnyddwyr. 

Mae Aforza wedi dylunio nodwedd rhagweld rhagfynegol sy’n galluogi cynrychiolydd gwerthu nwyddau defnyddwyr (ee yn BrewDog neu Whyte & Mackay) i ragweld pryd y bydd cynnyrch penodol allan o stoc ym mar neu archfarchnad eu manwerthwr – sy’n llawer cynt na dibynnu ar gael yr wybodaeth honno gan bobl. 

Cysylltodd Aforza â rhaglen Arloesi SMART Llywodraeth Cymru ym mis Mai 2019 ar ôl dewis Caerdydd fel ei bencadlys ymchwil a datblygu, i gael mynediad at astudiaeth ddichonoldeb ac arbenigedd i ddeall yn well sut i wneud y mwyaf o dechnolegau arloesi fel AI a dysgu peiriannau. 

Arbenigedd Arloesi SMART mewn technoleg yn benodol oedd o bwysigrwydd arbennig iddynt, wrth i’r cwmni geisio mireinio ei algorithmau rhagfynegol. 

Meddai Prif Swyddog Cynnyrch a chyd-sylfaenydd Aforza, Nick Eales: 

Mae AI wedi profi ei hun fel arf marchnata a gwerthu effeithiol iawn. Mae gallu mynd at ein cwsmeriaid a siarad â hygrededd am ein datrysiad AI wedi bod yn ddefnyddiol iawn. Mae wedi bod o gymorth inni gael ein gweld fel cwmni arloesol. 

Bu SMART o gymorth i ni gyda thechnoleg sy’n rhagfynegi pryd mae siop yn mynd i gyflwyno archeb newydd a gwybod yn union beth y maent am ei archebu, rhagfynegi pa ymgyrchoedd hyrwyddo fyddai’n rhedeg yn dda a phryd y dylech ymweld â siopau.  

Roedd bod allan o stoc yn arbennig o berthnasol yn ystod cyfnodau ym mhandemig COVID-19. Fe welsoch yr holl broblemau â phapur tŷ bach. Roedd hyn y math o beth y gallai AI ei ragweld. Gallech ddweud, ‘yn seiliedig ar y patrymau cyfredol yn y farchnad, yn seiliedig ar yr hyn yr ydym yn ei weld mewn siopau tebyg eraill, mewn 10 diwrnod, ni fydd papur tŷ bach ar y silffoedd.

Fe wnaeth y rhaglen Arloesi SMART alluogi’r cwmni i gyrraedd y cam masnacheiddio, sydd wedi eu caniatáu i gyflwyno eu technolegau cwmwl a symudol i fwy na 25 o gwsmeriaid mewn 20 o wahanol wledydd, ar draws sawl cyfandir.

Mae llwyddiant y ceisiadau busnes wedi galluogi Aforza i dyfu’n sylweddol ac i greu swyddi cynaliadwy. Mae yn y cwmni bellach dîm datblygu AI penodedig o dan arweiniad peirianwyr, y cafodd pedwar ohonynt eu recriwtio oherwydd y cyllid. 

Mae Aforza wedi tyfu o dîm o dri i dros 75, ac mae Mr Eales yn hyderus y byddant yn y pen draw yn gallu creu dros 100 o swyddi.

Ychwanegodd: “Ni ellir gor-bwysleisio pwysigrwydd y tîm SMART – fe wnaeth yr arbenigwyr ddarparu cyngor gwerthfawr iawn a wnaeth ein galluogi i oroesi, ond hefyd i ffynnu dros gyfnod o ddwy flynedd heriol iawn.”


Rhaid caniatau cwcis trydydd part i’r fideo hwn chwarae yma.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.