
Ni allwn fod wedi ennill busnes ychwanegol heb y cyllid i fynychu’r sioe fasnach yn Efrog Newydd.
Mae’r arlunydd Lucy Hay yn cynhyrchu sgarffiau moethus gyda’i lluniadau a’i pheintiadau gwreiddiol, yn aml wedi’u hysbrydoli gan fyd natur, ac wedi’u printio â llaw ar y sgarffiau.
Dechreuodd ymgynghorydd Busnes Cymru gynorthwyo Lucy ar ei thaith yn ddiweddar i ystyried allforio i UDA.
Ers hynny, mae Lucy wedi gallu meithrin cysylltiadau da a datblygu strategaeth allforio, gan sicrhau cyllid sydd wedi ei galluogi i fynychu sioeau masnach yn New Jersey ac Efrog Newydd.
Mae Lucy’n parhau i ddatblygu Art On Scarves Ltd dramor, sy’n cael effaith gadarnhaol ar eu twf a’u hystod cynnyrch ym marchnad y DU.
A hoffech chi gyngor arbenigol ar allforio?
Cysylltwch â'r tîm heddiw Mynnwch Gymorth | Business Wales (gov.wales)