BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Aston Martin & Prifysgol Cymru y Drinded Dewi Sant

Y Prosiect:

Bu Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant  ac Aston Martin yn cydweithio drwy Bartneriaeth. Mae hon yn fenter 12 mis rhwng cwmni a phrifysgol sy'n edrych ar brosiect sy'n canolbwyntio ar gynyddu capasiti a gallu mewn busnes. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig 50% o gyllid ar gyfer costau'r prosiectau hyn ac mae partner y cwmni yn gymwys i dalu'r costau sy'n weddill..


Bu dau aelod o staff academaidd o'r Ysgol Peirianneg yn y Gyfadran Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg (FACE), gyda chefnogaeth gan y Gwasanaethau Arloesi a Menter Ymchwil (RIES) yn PCYDDS yn gweithio gydag Aston Martin i ddatblygu prosiect a oedd yn edrych ar ddatblygu ac optimeiddio eu proses bondio.

Penododd y prosiect ddau Gymar Ymchwil i weithio ar y prosiect dan gefnogaeth a goruchwyliaeth y ddau academydd a dau oruchwyliwr cwmni.

 


Rhaid caniatau cwcis trydydd part i’r fideo hwn chwarae yma.



Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.