BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Blwyddyn gyntaf o lwyddiant melys i fecws

Haf Wyn Pritchard

Mae menyw fusnes o Rhuthun wedi profi y gall unrhyw un godi i’r her a dod yn entrepreneur llwyddiannus gyda’r cymorth a’r adnoddau cywir.

Roedd Haf Wyn Pritchard yn gweithio fel athrawes lawn-amser mewn ysgol gynradd leol pan gododd  y cyfle iddi newid ei byd ac agor cangen o Fecws Islyn yn y dref yn Ebrill 2023.

Ar ôl bron i ddau ddegawd o weithio fel athrawes, ym mis Mawrth 2023, awgrymodd Haf y syniad o agor Becws Islyn yn Rhuthun i’w ffrindiau a pherchnogion y becws gwreiddiol yn Aberdaron, Geraint a Gillian Jones, a oedd wedi plannu’r syniad sawl blwyddyn ynghynt.

Er nad oedd unrhyw brofiad gan Haf o redeg busnes, diolch i gymorth Busnes Cymru, llwyddodd i ddyblu trosiant disgwyliedig y becws o fewn y mis cyntaf ar ôl agor i’r cyhoedd.

Yn union fel ei chwaer-fecws yn Aberdaron, mae Becws Islyn Rhuthun wedi dod yn dipyn o ffefryn gyda’r gymuned, gyda phobl leol ac ymwelwyr yn heidio i’r siop hynod i brynu danteithion melys a sawrus, sydd oll yn cael eu pobi’n fewnol a’u marchnata’n ddwyieithog.

Ond nid Haf yn unig sydd wedi bod wrthi. Mae gŵr Haf, Rhodri, yn codi am 3am bob bore i bobi bara enwog Becws Islyn Rhuthun, cyn mynd i’w waith llawn-amser fel arbenigydd porthiant amaethyddol.

Ers agos y busnes, mae Haf wedi dod yn ffigur poblogaidd ymysg ei chydberchnogion busnes, gydag agoriad y becws yn cynyddu nifer y bobl sy’n dod i’r dref, a gwerthiannau. Mae Haf hyd yn oed wedi bod yn cydweithio â’i chymydog, siop y cigydd J.H Jones & Co, gan brynu cig a llysiau ar gyfer ei chynhyrchion cartref, ac wedi meithrin partneriaeth â nifer o fusnesau Cymreig, o Jones o Gymru i Radnor Hills, i stocio eu cynnyrch.

Dywedodd Haf:

Roedd wythnos gyntaf y busnes yn wallgo. Cymerodd Rhodri, sy’n aml yn helpu yn y siop, bythefnos o’r gwaith i helpu i bobi bara a chacennau er mwyn cynnal lefel y stoc. Treuliodd ein ffrindiau a’n partneriaid busnes, Gillian a Geraint, y pedwar diwrnod cyntaf gyda ni hefyd, yn cynnig cyngor busnes lle bo modd, ac yn ein helpu ni i gadw i fyny â’r rhes ddiddiwedd o gwsmeriaid Roedd hi wir yn freuddwyd.

Mae’r gefnogaeth rydyn ni wedi ei chael gan y gymuned leol a chan ein cyd-fusnesau wedi bod yn fendigedig ac mae hi wedi gwneud ein trawsnewidiad i entrepreneuriaeth gymaint yn fwy pleserus.  Ein cwsmeriaid yw ein bara menyn. Rydyn ni’n siarad â nhw’n barhaus er mwyn datblygu’r busnes - boed hynny i gynyddu’r elw trwy ddod â’r ‘hynni byns’ hoff yn ôl, neu trwy helpu ein staff i ddatblygu eu sgiliau yn y Gymraeg trwy weini a sgwrsio yn Gymraeg. Fydden ni ddim yma hebddyn nhw, na heb Busnes Cymru wrth gwrs.

Cysylltodd Haf â Busnes Cymru am gymorth yn Ebrill 2023, mis ar ôl cytuno i gychwyn y fenter busnes ddewr yma. Cafodd ei pharu’n syth â’r Cynghorydd Busnes Gwawr Cordiner a gynorthwyodd Haf i ddatblygu cynllun busnes, paratoi taenlenni llif arian a pholisïau ar gyfer y buses, a’i chyfeirio at diwtora ar lein Busnes Cymru a’i chynorthwyodd i ddatblygu’r sgiliau angenrheidiol i redeg ei busnes ei hun.

Cynorthwyodd Gwawr Haf i ganfod a diogelu cyllid ychwanegol yn llwyddiannus, a fydd yn mynd i brynu offer coginio newydd a fydd yn caniatáu i Fecws Islyn Rhuthun ehangu ei harlwy.

Diolch i gymorth Busnes Cymru, magodd Haf hyder yn ei rôl entrepreneuraidd, ac aeth ati’n annibynnol i ehangu ei thîm blaen a chefn tŷ, gan gyflogi pump aelod o staff newydd i ddelio â chwsmeriaid ac i weithio yn y becws er mwyn ymdopi â phoblogrwydd cynyddol y busnes.

Dywedodd Haf:

Cyn troi at Busnes Cymru, doedd dim syniad gen i sut i redeg busnes, ond roedd angen i mi newid i’r meddylfryd yna’n weddol gyflym pan gododd y cyfle. Roedd angen i mi fynd o addysgu pobl am y pethau roeddwn i eisoes yn gwybod ac roeddwn i wedi bod yn eu hastudio ers blynyddoedd, i ddysgu am ddau ddiwydiant oedd yn hollol newydd i mi - sef pobi a busnes - oedd yn gymysgedd o sgiliau newydd sbon. Roedd hi’n ddigon o ddychryn rhywun a dweud y lleiaf.

Fel sylfaenydd busnes a Phrif Weithredwr benywaidd sy’n marchnata ac yn cynghori busnesau, mae Gwawr wedi gallu rhoi cyngor i mi am ffyrdd o redeg busnes yn llwyddiannus ar sail ei phrofiad ei hun, a’r cyfan yn Gymraeg! Doeddwn i ddim wedi rhagweld pa mor llwyddiannus y byddai Becws Islyn Rhuthun o fewn cyfnod mor fyr, ond roedd hyn oll diolch i ymroddiad fy nhîm a chefnogaeth Busnes Cymru.

Dros y flwyddyn nesaf, ynghyd ag ehangu ei harlwy o gynnyrch a chynyddu gwerthiannau eto fyth, mae golygon Haf ar agor un neu ddwy o siopau Becws Islyn arall ar draws y gogledd.

Dywedodd Gwawr Cordiner:

Mae newid llwybr gyrfaol, yn arbennig ar ôl gyrfa mor llwyddiannus, yn ddigon i ddychryn rhywun. Ond gyda meddylfryd uchelgeisiol a’r parodrwydd i chwilio am y cymorth cywir, mae gan unrhyw un y potensial i fod yn berson busnes llwyddiannus, ac mae Haf yn dystiolaeth o hynny. Mae rhoi cyngor o brofiad, a gweld mentrau pobl fusnes ymroddgar yn llwyddo yn beth hynod o werth chweil i mi. Ac mae’r ffaith fod Becws Islyn Rhuthun yn helpu’r Gymraeg i lewyrchu ymysg staff a chwsmeriaid yn goron ar ben y cyfan. 

Llywodraeth Cymru sy’n ariannu Busnes Cymru. I gael rhagor o fanylion a chymorth i helpu eich busnes chi i ddarganfod cyfleoedd, ac i siarad ag ymgynghorydd arbenigol, cysylltwch â Busnes Cymru. Ffoniwch 03000 6 03000 neu ewch i https://businesswales.gov.wales/cy. Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.