BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Busnes Cymru’n helpu entrepreneur i fwynhau arogl pêr llwyddiant

Fiona Stephens of LAL Fragrance

Yn ogystal â bod yn brofiad cyffrous, mae lansio busnes yn gallu bod yn ddigon i godi gwallt eich pen, ond mae profiad Fiona Stephens, menyw fusnes o Fargoed, yn dangos bod y cymorth cywir yn allweddol wrth helpu i osod menter newydd ar ben ffordd.   

Lansiodd Fiona Stephems LAL Fragrance, busnes peraroglau moethus a enwyd er cof am ei mam, yn 2022. Ond pan na ddaeth yr archebion yn llifo i mewn ar y dechrau, roedd hi’n ofni y byddai angen iddi roi’r gorau i’w breuddwyd. Diolch i’r drefn, daeth Fiona ar draws cymorth Busnes Cymru wrth chwilio ar lein, ac mae’r cymorth yna wedi ei chynorthwyo i hybu ei masnach yn y de.

Bron i flwyddyn yn ddiweddarach, mae Fiona’n gweithio i ehangu ei hamrywiaeth o fath boms a chynhyrchion i’r gawod, ar ôl i Busnes Cymru ei chynorthwyo i roi hwb i’w masnach ar draws Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Roedd Fiona’n gweithio llawn-amser ar y pryd, a ffeindiodd ei hun â llond ystafell o doddyddion cwyr, tryledwyr peraroglau a chanhwyllau ar ôl syrthio mewn cariad â chreu nwyddau â pheraroglau yn ystod y cyfnod clo. Fel un oedd wrth ei bodd ar beraroglau, penderfynodd Fiona droi ei hobi’n fusnes.

Nid yw entrepreneuriaeth yn beth newydd iddi, roedd Fiona’n arfer bod yn berchennog siop clustogwaith a ffabrig yn Ystrad Mynach. Ond er gwaethaf ei phrofiad o redeg busnes, roedd hi’n anobeithio am na chafodd unrhyw archebion ar lein yn ystod ei hwyth mis cyntaf mewn busnes.

Dywedodd Fiona:

Roedd llawer o ddiddordeb yn fy nghynnyrch, ond doeddwn i ddim yn gwerthu dim. A doeddwn i ddim yn deall pam. Roedd hi’n achosi rhwystredigaeth fawr, ac roeddwn i’n digalonni. Roeddwn i’n agos at gau’r busnes, ond newidiais fy meddwl ar y funud olaf.

Enwyd LAL Fragrance ar ôl fy mam, Lesley. Ar ôl iddi gael diagnosis o glefyd Alzheimer yn 2016, fe sylweddolais i ba mor bwysig oedd creu atgofion, a bod yn hollol bresennol ar yr adegau hapus yna hefyd.  Roeddwn i am roi cyfle i bobl eraill wneud hynny trwy bŵer peraroglau. Mae meddwl i mi ddod mor agos at roi’r ffidil yn y to yn dorcalonnus. Byddwn i’n annog i bob entrepreneur beidio â rhoi’r ffidil yn y to, ond yn hytrach i estyn allan at Busnes Cymru.

Ym mis Mawrth 2023, cafodd Fiona ei chysylltu â Chynghorydd Twf Busnes Cymru, Carla Reynolds. Trwy gyfarfodydd wythnosol fesul un, cynorthwyodd Carla Fiona i glustnodi gwerthoedd craidd LAL Fragrance fel busnes peraroglau cynaliadwy a moethus yn y cymoedd, ac anogodd hi i gofrestru ar gyfer yr Adduned Twf Gwyrdd a’r Adduned Cydraddoldeb. Anogodd Carla Fiona, sy’n siarad Cymraeg, i wneud ei gwefan yn ddwyieithog gyda chymorth Helo Blod hefyd.

Yn rhan o Raglen Farchnata Busnes Cymru, cafodd Fiona ei chysylltu â Marianne Pettifor a fu, diolch i’w phrofiad o reoli a gwerthu amrywiaeth o fusnesau, yn gallu rhoi cymorth busnes i Fiona ar sail ei phrofiadau ei hun. Gan sylweddoli bod rhoi cyfle i gwsmeriaid weld cynhyrchion Fiona â’u llygaid eu hunain yn allweddol i ddiogelu gwerthiannau, dechreuodd y ddwy fynd ati i ddod o hyd i gyfleoedd masnachu wyneb yn wyneb.

Dros y pum mis diwethaf, mae Fiona wedi cynnal stondin mewn ffair grefftau mewn ysgol leol ac wedi cynnal nifer o bartïon gwerthu yn Abertawe a’r Coed-duon a fydd yn helpu i hybu elw’r busnes trwy werthu mewn digwyddiadau wyneb yn wyneb. 

Dywedodd Fiona:

Roedd cyfnod mor hir heb werthu dim wedi rhoi ergyd i fy hyder fel entrepreneur, ond bu Busnes Cymru’n allweddol wrth fy nghynorthwyo i oresgyn y rhwystr enfawr yna. Gyda chymorth Carla a Marianne, rydw i wedi gallu datblygu busnes ar sail fy angerdd, masnachu’n llwyddiannus wyneb yn wyneb, ac yn bwysicach na dim, rydw i wedi gallu cadw enw Mam yn fyw.

Yn ogystal â gweithio mewn partneriaeth â busnesau lleol i gynnal partïon cynnyrch dros y flwyddyn nesaf, mae Fiona wrthi’n archwilio ffyrdd newydd cyffrous o farchnata ei busnes ar blatfformau cymdeithasol fel Instagram. 

Dywedodd Carla Reynolds, Cynghorydd Twf Busnes Cymru:

Rwy’n fwy na balch fod Fiona wedi gofyn am gymorth Busnes Cymru cyn rhoi’r gorau i’w breuddwydion busnes. Mae helpu entrepreneuriaid i adfer eu hunanhyder a’u cred yn aml llawn mor bwysig â rhannu cyngor busnes, neu gyfeirio entrepreneuriaid at adnoddau gwahanol, o hyfforddiant i grantiau. Mae Fiona’n esiampl fendigedig o sut y gall gofyn am help llaw eich gweld chi’n goresgyn rhwystrau mawr i fusnes, ailgynnau eich angerdd, a ffeindio’r llwyddiant yna roeddech chi’n chwilio amdano.

Llywodraeth Cymru sy’n ariannu Busnes Cymru. I gael rhagor o fanylion a chymorth i helpu eich busnes chi i ddarganfod cyfleoedd, ac i siarad ag ymgynghorydd arbenigol, cysylltwch â Busnes Cymru. Ffoniwch 03000 6 03000 neu ewch i https://businesswales.gov.wales/cy. Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.