BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Castell Y Bwch Trading Ltd

Castell Y Bwch Trading Ltd

Mae Busnes Cymru wedi bod yn allweddol i'n galluogi ni i ddechrau ein busnes.

Ers sicrhau tŷ tafarn yng Nghwmbrân, roedd gan Gary a Karen gynlluniau i ail-ddatblygu'r lle yn unedau llety ar gyfer twristiaid, yn ogystal â thafarn a bwyty. 

Er mwyn sicrhau y gallant fynd ati i ddatblygu'r eiddo a recriwtio staff yn llwyddiannus, cawsant gyngor gan eu cynghorydd Busnes Cymru ar ddechrau ac ehangu'r busnes, sef Castell y Bwch.

Trafodasant gyfleoedd recriwtio, gyda'u cynghorydd yn rhoi amrywiaeth o bolisïau iddynt i ffurfio llawlyfr y cwmni, gan eu galluogi i recriwtio staff ar gyfer y busnes. Wedi hynny, adolygodd Gary a Karen y cyflog byw achrededig ac maent wedi cofrestru'n gyflogwr hyderus o ran anabledd i gefnogi gweithlu amrywiol.

I sicrhau cefnogaeth ariannol i ddatblygu'r busnes, maent yn ceisio cyllid gan Fanc Datblygu Cymru, gyda'u cynghorydd yn taro golwg ar y cynllun busnes a'u rhagolygon i gefnogi'r cais.

Hoffech chi gyngor ar ddechrau a thyfu busnes? Cysylltwch heddiw. Mynnwch Gymorth | Business Wales (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.