BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Cymru Creations

Cymru creations

Rydym yn falch o allu dweud y bydd ein cynllun prentisiaeth yn parhau diolch i Busnes Cymru.

Prosiect er mwyn darparu academi ffilm i blant a phobl ifanc o ardaloedd difreintiedig yw Cymru Creations. Daeth Kevin Phillips at Busnes Cymru er mwyn cael cyngor ac arbenigedd ynglŷn â dechrau cynllun prentisiaeth. 

Gyda chyrsiau lleol yn y maes yn brin, a’i lwyddiant o gysylltu gyda cholegau yng Nghymru yn gyfyngedig, llwyddodd tîm prentisiaethau Busnes Cymru i gynnig cyngor arbenigol a diduedd i Kevin. Llwyddodd ei ymgynghorydd prentisiaethau i ganfod darparwr addas, a chafodd Cymru Creations eu paru gyda Choleg Gŵyr Abertawe.

Mae Kevin yn hapus iawn o gadarnhau bod ei fusnes, Cymru Creations, am barhau i ddarparu ei brentisiaeth fframwaith celfyddydau creadigol i blant a phobl ifanc Tredegar!

A yw eich busnes yn awyddus i ymwneud â phrentisiaethau? Cysylltwch â'r tîm heddiw Mynnwch Gymorth | Business Wales (gov.wales) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.