BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Driverly Insurance Ltd

Driverly Insurance Ltd

Rydym yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth a gawsom gan Busnes Cymru a fydd yn fuddiol i ddarparu profiad wedi'i deilwra i'n cwsmeriaid.

Mae'r busnes newydd sy'n cynnig yswiriant hyblyg i geir, Driverly, wedi'i ddylunio yn seiliedig ar ap telemateg yn sgorio modurwyr ar ba mor ddiogel maent yn gyrru. Mae ganddo system wobrwyo yn seiliedig ar ymddygiad gyrwyr a gall wella'r cynigion yswiriant car sydd ar gael i yrwyr. 

Gyda gweledigaeth a syniad busnes cryf, roedd angen cymorth gan Busnes Cymru ar Driverly er mwyn tyfu a datblygu'n gynaliadwy. Yn ogystal â darparu cyngor ar y cynllun busnes cyffredinol, cawsant gymorth gan eu cynghorydd gyda chyllid y busnes, mynd i'r farchnad a dosbarthu.

Cyflwynodd eu cynghorydd busnes ddau bartner arwyddocaol i Driverly: Banc Datblygu Cymru, a fydd yn eu galluogi i ariannu eu gweledigaeth, a'r Ganolfan Rhagoriaeth mewn Technolegau Symudol a Datblygol, a ddatblygodd dechnoleg yr ap drwy ychwanegu dimensiwn arall i asesu risg eu cwsmeriaid o ran gyrru.

Hoffech chi gymorth i dyfu'n gynaliadwy? Gall Busnes Cymru eich helpu chi i ddatblygu gweledigaeth eich busnes ymhellach. Mynnwch Gymorth | Business Wales (gov.wales) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.