BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Equi-Jewel

Equi-Jewel

Bu Busnes Cymru yn hynod ddefnyddiol wrth weithio gyda ni i dyfu ein busnes mewn ffordd gynaliadwy, gan ein helpu i ddarparu cyfleoedd ar gyfer cymaint o bobl â phosib wrth i ni dyfu.

Roedd Equi-Jewel, sy’n dylunio a gweithgynhyrchu dillad ar gyfer cystadlaethau marchogol, yn awyddus i sicrhau bod eu busnes yn tyfu’n gwmni blaengar.  Cysylltodd Chris Galtry, o Equi-Jewel, â Busnes Cymru i siarad â Chynghorydd Cyflogaeth Pobl Anabl gan fod ganddo ddiddordeb mewn cyflwyno strategaethau recriwtio cynhwysol, yn cynnwys prentisiaethau.

Wedi iddo dderbyn cymorth gan ei Gynghorydd Cyflogaeth Pobl Anabl, cofrestrodd Chris gyda’r Cynllun Hyderus o ran Anabledd ac mae nawr yn addasu ei hysbysebion swyddi a’i fusnes er mwyn sicrhau eu bod yn gynhwysol ar gyfer pawb. Yn ogystal, cofrestrodd Chris gyda’r Addewid Cydraddoldeb a’r Addewid Twf Gwyrdd er mwyn datblygu ei strategaeth fusnes ymhellach i fod yn fusnes cynaliadwy, cynhwysol wrth symud ymlaen. 

I ddarganfod mwy am ddod yn fusnes cynaliadwy a sut i gofrestru ar gyfer ein Haddewid Twf Gwyrdd, cysylltwch â’n tîm heddiw! 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.