Byddwn yn argymell Busnes Cymru i unrhyw un sy'n dechrau busnes, mae wedi bod yn amhrisiadwy.
Roedd Angharad Thomas eisiau dechrau busnes ei hun yn darparu gwasanaeth gofal ymrwymedig yn Gymraeg a Saesneg, felly ceisiodd gymorth Busnes Cymru.
Gyda thros ddau ddegawd o brofiad yn y sector gofal, cafodd y syniad o adeiladu asiantaeth ofal yn y cartref gyda charedigrwydd, tosturi, a dibynadwyedd yn flaenoriaeth o fewn ei gwerthoedd.
Derbyniodd Angharad gymorth cyn dechrau gan ei hymgynghorydd busnes a mynychodd weminarau Dechrau a Rhedeg Busnes a Thendro i'w chynorthwyo i ddod yn hunangyflogedig.
Darparwyd cymorth pellach gan ei hymgynghorydd Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ynghylch recriwtio gweithwyr asiantaeth a deddf cyflogi.
Mae Gofal Angel Care bellach yn masnachu'n llwyddiannus ac wedi recriwtio 20 o weithwyr fel gweithwyr gofal yn y gymuned!
Cysylltwch â ni heddiw i ofyn am gymorth busnes Mynnwch Gymorth | Business Wales (gov.wales)