BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Gweithgynhyrchwr labeli gam yn nes at ei nodau gwyrdd diolch i Busnes Cymru

Nathan Williams

Mae cwmni gweithgynhyrchu labeli yn Wrecsam wedi llwyddo i gymryd camau breision tuag at ddyfodol sero net ac wedi uwchraddio ei brosesau busnes diolch i arweiniad Busnes Cymru.

Sefydlwyd Limpet Labels UK ym 1992 fel busnes teuluol mewn perchnogaeth breifat, ac mae’n darparu gwasanaethau labeli hunanadlynol ar gyfer BBaCh blaenllaw yn y DU a brandiau fel Halfords, WD-40, Wrexham Lager a Booker Wholesale.

Er bod ganddo restr drawiadol o gwsmeriaid, a throsiant blynyddol o ryw £4 miliwn, trodd Nathan Williams, Cyfarwyddwr Gweithrediadau’r cwmni at Busnes Cymru am gymorth i ddatblygu’r busnes. Ar ôl blynyddoedd o fuddsoddi ac arloesi parhaus, roedd Nathan am i Limpet Labels UK weithredu’n fwy effeithlon, a chael cyngor ar sut y gallai’r cwmni nesáu at gyflawni ei nodau gwyrdd.

Trefnodd Richard Fraser-Williams, Rheolwr Perthnasau  Busnes Cymru, gyfarfod ar y cyd ag Arbenigydd Arloesi o  Llywodraeth Cymru, a gyflwynodd SFIS i’r cwmni. Llywiodd y dull yma o weithredu ar y cyd Nathan i gyfeiriad Cymorth Arloesi Hyblyg CAMPUS Llywodraeth Cymru, sy’n darparu cyngor, arbenigedd a chyllid ar gyfer busnesau. 

Sbardunodd y cyngor yma Nathan i fuddsoddi mewn system gwybodaeth reoli newydd i helpu’r busnes i gyflawni twf cynt, a lleihau gwastraff drwyddi draw er mwyn ei gynorthwyo i gyrraedd ei nod cynaliadwyedd a chyflawni sero net.
Cyflwynodd Busnes Cymru Nathan i Claire Hinchcliffe yng Nghyngor Sir Wrecsam hefyd.

Er fod y cwmni ar un o ystadau diwydiannol mwyaf Wrecsam, ffeindiodd Claire nad oedd llawer o’r cwmnïau lleol ar yr un ystâd yn ymwybodol o’r gweithgynhyrchwr, a’u bod yn cael eu labeli o Ewrop. Ers sylweddoli hyn, mae Limpet Labels UK wedi archwilio dulliau newydd o ddatblygu ei strategaeth farchnata er mwyn targedu cwsmeriaid yn ei filltir sgwâr. 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Nathan:

Mae Limpet Labels UK wedi bod mewn bodolaeth ers dros 32 o flynyddoedd, ac er bod gennym bortffolio helaeth o gleientiaid blaenllaw, roeddem ni am sicrhau ein bod ni ar y trywydd iawn i ddatblygu, a’n bod yn parhau i wella ein harferion trwy leihau gwastraff a chynhyrchu labeli gan ddefnyddio deunyddiau y gellir eu hailgylchu. Mae’r cysylltiadau rydyn ni wedi eu meithrin â Llywodraeth Cymru a’n cyngor lleol trwy Busnes Cymru wedi ein cynorthwyo ni i dynnu sylw ein cymdogion atom ni a dangos iddynt ein bod ni’n falch o allu darparu gwasanaeth o safon ar gyfer busnesau bach a mawr.

Nawr mae’r gweithgynhyrchwr labeli hunanadlynol yn archwilio’r posibilrwydd o brynu offer newydd cynaliadwy gyda chymorth Busnes Cymru.

Aeth Nathan ymlaen i ddweud: 

Mae Limpet Labels UK yn gwmni dibynadwy â sylfaen o gwsmeriaid ffyddlon, ond nawr rydyn ni wedi gallu dod o hyd i ffyrdd newydd o wella ein prosesau cynhyrchu. Mae Busnes Cymru wedi ein cynorthwyo ni i lunio cynlluniau datblygu newydd sy’n gallu ein cynorthwyo ni i gryfhau ein perthnasau cyfredol, ehangu ein cwsmeriaid a dod yn weithgynhyrchwr labeli mwy gwyrdd.

Dywedodd Richard Fraser-Williams:

Mae Nathan yn arwain ymgyrch Limpet Labels i wella’n barhaus, addasu technoleg newydd, a lleihau ei ôl troed carbon. Does dim amheuaeth y bydd ei barodrwydd i archwilio i bob cyfle ac ystyried mewnbwn proffesiynol yn meithrin twf iach ac yn cyflawni amcan ei dîm i fod yn fusnes mwy gwyrdd.

Llywodraeth Cymru sy’n ariannu Busnes Cymru. I gael rhagor o fanylion a chymorth i helpu eich busnes chi i ddarganfod cyfleoedd, ac i siarad ag ymgynghorydd arbenigol, cysylltwch â Busnes Cymru.  Ewch i https://businesswales.gov.wales/cy neu ffoniwch 03000 6 03000. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.