Roedd gan Busnes Cymru gysylltiadau a chyngor a arweiniodd fi i gyfeiriad mwy cynhyrchiol. Roedden nhw yna pan oedd gen i unrhyw amheuon ac roedd rhywun wrth law i fy nghynorthwyo ar hyd y ffordd.
Agorwyd y Figydd cyntaf yng Nghymru yn Y Barri gan Karry Meyrick gyda chyngor a chymorth gan Busnes Cymru. Agorodd y gwasanaeth bwyd sy’n seiliedig yn llwyr ar blanhigion, Karry’s Deli, yn ystod y pandemig ym mis Awst y llynedd.
Cysylltodd Karry â ni pan ddangosodd pobl lawer o ddiddordeb yn ei syniad ar ôl iddi ei awgrymu ar grŵp cyfryngau cymdeithasol lleol. Mynychodd weminar Dechrau a Rhedeg Eich Busnes Eich Hun a chafodd gyngor 1 i 1 unigryw gan gynghorydd busnes profiadol, a alluogodd hi wedyn i ddechrau ei busnes ei hun.
Roedd agoriad cychwynnol y busnes yn hynod brysur a phan ddechreuodd fynd braidd yn ormod i Karry, estynnodd allan i’w chynghorydd am gymorth ychwanegol.
Cafodd ei pharu â mentor busnes gwirfoddol a fu mewn cysylltiad rheolaidd ers hynny ac a gynorthwyodd Karry i dyfu ei busnes yn gynaliadwy.
Mae Karry hefyd wedi cofrestru ar gyfer yr Addewid Twf Gwyrdd lle mae’n gweithio’n ddygn i gael gafael ar gynhyrchwyr Cymreig er mwyn annog gostyngiad mewn ôl troed carbon. Yn ogystal, yn y gobaith o gyflwyno mwy o Gymraeg a diwylliant o fewn ei busnes, mae Karry wedi ymrwymo i’n Haddewid Cydraddoldeb.
Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/case-studies neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.