BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

LD Hair & Bridal

Bu i entrepreneur o Abertawe dreulio’r cyfnod cloi yn rhoi trefn ar ei brand ar gyfer agor salon trin gwallt newydd wrth i gyfyngiadau lacio.

 
Gyda dros 10 mlynedd o brofiad mewn trin gwallt, penderfynodd Llinos Davies lansio ei salon gwallt ei hun yn Ystalyfera, Abertawe. Cysylltodd Llinos â gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru am gymorth i ddechrau busnes, ac ers hynny mae wedi llwyddo i lansio LD Hair & Bridal.
 
  • cymorth dechrau busnes gyda chynllunio busnes a rhagolygon ariannol
  • lansiwyd yn llwyddiannus ym mis Gorffennaf 2020

Cyflwyniad i'r busnes

Lansiwyd y busnes gan Llinos Davies yng Nghastell-nedd Port Talbot ym mis Gorffennaf 2020, ac mae LD Hair & Bridal yn salon gwallt newydd sy'n arbenigo ar bob agwedd o drin gwallt, yn cynnwys torri gwallt merched a dynion, lliwio yn ogystal â gwalltiau priodas.
 

Pam wnaethoch chi benderfynu cychwyn eich busnes eich hun?

Penderfynais ddechrau fy musnes fy hun ar ôl i mi ddod adref ar ôl bod yn teithio. Cyn hynny, roeddwn wedi cael profiad o weithio mewn salon, a phenderfynais fynd amdani ar fy mhen fy hun. Rwyf eisoes wedi bod eisiau gwneud hyn, ac roedd yr amser yn berffaith ar ôl cael bod yn teithio.
 

Pa heriau a wyneboch?

Y prif heriau oedd bod yr holl brif gyflenwyr wedi cau yn ystod cyfnod y cloi, oedd yn ei gwneud hi'n anodd iawn i gynllunio'r hyn y byddwn yn ei wario a gweld beth oedd ar gael.
Yn ychwanegol, roedd pawb yn gweithio o adref, ac roedd yn anodd cael gafael ar bobl. Roedd hyn yn cynnwys agor cyfrifon a threfnu pethau pwysig megis yswiriant, llinell ffôn, etc.


Cymorth Busnes Cymru

Ar ôl sicrhau safle ar gyfer ei salon gwallt, cysylltodd Llinos â Busnes Cymru gan ei bod hi angen cymorth i ddechrau ei busnes newydd. Bu iddi fynychu gweithdai dechrau busnes a derbyn cyngor gan arbenigwr dechrau busnes, Hywel Bassett, a helpodd hi gyda'i chynllun busnes, rhagolygon llif arian a'r agweddau cyfreithiol ar ddechrau busnes. Ers lansio'r busnes yn llwyddiannus wrth i gyfyngiadau cyfnod y cloi lacio ledled y wlad, mae Linos a Hywel wedi bod yn gweithio gyda'i gilydd yn archwilio ffynonellau ariannu i ddatblygu'r busnes ymhellach.
 

Canlyniadau

  • cymorth dechrau busnes gyda chynllunio busnes a rhagolygon ariannol
  • lansiwyd yn llwyddiannus ym mis Gorffennaf 2020
Mae Hywel, fy ymgynghorydd, wedi bod yn help mawr. Mae wastad yn darparu ymateb cyflym os wyf angen unrhyw help neu gyngor. Mae'n braf gwybod ei fod ar ochr arall y ffôn bob amser.
 

Cynlluniau a dyheadau ar gyfer y dyfodol

Mae fy nghynlluniau ar gyfer y dyfodol yn cynnwys cynyddu fy enw da mewn gwaith gwalltiau priodas a chael fy adnabod fel un o'r goreuon yn fy maes ac yn yr ardal. Hoffwn hefyd ehangu i salon mwy o faint.
 
Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.