Asiantaeth farchnata o Dde Cymru yn gwneud gwelliannau cynaliadwyedd sylweddol yn dilyn cymorth gan Busnes Cymru.
Mae The Media Angel, asiantaeth farchnata wedi'i lleoli ym Mhenarth, yn arbenigo mewn ymgyrchoedd marchnata unigryw a phrynu cyfryngau ar draws yr holl lwyfannau a sectorau. Ar ôl mynychu gweithdy ysgrifennu cynigion, a ddarparwyd gan wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru, mae'r tîm wedi elwa o gefnogaeth Effeithlonrwydd Adnoddau pellach i sicrhau bod gweithrediadau'r busnes yn gynaliadwy.
- mynychu gweithdy tendro
- cymorth cynaliadwyedd
- gwelliannau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd o fewn y busnes yn unol ag Addewid Twf Gwyrdd Busnes Cymru
Cyflwyniad i'r busnes
Mae The Media Angel, a sefydlwyd yn 2008 ym Mro Morgannwg, De Cymru gan Alison Debono yn asiantaeth farchnata annibynnol sy'n arbenigo mewn cynllunio a phrynu cyfryngau ar draws yr holl lwyfannau, gan gynnwys teledu, radio, y wasg, awyr agored, sinema, digidol, cyfryngau cymdeithasol, bws, tacsi a rheilffordd.
Gyda phrofiad ac arbenigedd helaeth mewn amlgyfrwng, mae'r cwmni'n cynnig datrysiadau marchnata unigryw i gleientiaid ar draws pob sector diwydiant.
Pam mae cynaliadwyedd yn bwysig i'ch busnes?
Credwn mai ein cyfrifoldeb ni yw sicrhau nad yw gweithgareddau ein busnes yn effeithio'n niweidiol ar yr amgylchedd. Rydym yn cymryd camau i hyrwyddo cynaliadwyedd o fewn ein busnes, gyda'n cyflenwyr a chyda'r gymuned ehangach.
Rydym yn sicrhau bod ein cyflenwyr yn atebol am eu heffaith amgylcheddol a bod ganddynt weithdrefnau mewn lle i sicrhau bod deunyddiau'n cael eu hailddefnyddio neu eu hailgylchu pan fo'n bosib. Rydym hefyd yn cymryd rhan mewn digwyddiadau cymunedol megis codi ysbwriel oddi ar draeth Ynys y Barri ar gyfer Cadwch Gymru'n Daclus fel rhan o Glanhau Moroedd Cymru.
Pam aethoch at Busnes Cymru?
Aethom at Busnes Cymru i fynychu gweithdy ysgrifennu tendr, ac yno gwnaethom gwrdd â'n cynghorwr cynaliadwyedd, Paul Carroll. Eglurodd Paul i ni beth oedd Addewid Twf Gwyrdd Busnes Cymru, a dechreuon ni weithio tuag at brosesau newydd a fyddai'n gwneud y busnes yn fwy ystyriol o'r amgylchedd.
Canlyniadau
Gyda chymorth Paul, daethom o hyd i ffyrdd o wella effaith amgylcheddol y busnes. Bu i ni ymchwilio i ffyrdd o gyflawni hyn a gwnaethom y newidiadau canlynol:
- cysylltu â'n cyflenwyr i sicrhau bod deunyddiau yn cael eu hailgylchu a'u hailddefnyddio pan fo'n bosib
- cerdded i gyfarfodydd neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a rhannu ceir pan fo'n bosib
- buddsoddi mewn system rheoli cynnwys ar y cwmwl i arbed ar argraffu
- buddsoddi mewn gwasanaeth llesiant ar gyfer ein tîm
Cynlluniau a dyheadau ar gyfer y dyfodol
Rydym yn bwriadau parhau i ddatblygu syniadau a phrosesau newydd i sicrhau bod y busnes yn gynaliadwy a lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd. Mae ein cynlluniau'n cynnwys:
- edrych ar wella'r insiwleiddio yn ein swyddfeydd er mwyn defnyddio llai o wres
- parhau i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu rannu ceir, pan fo'n bosib, wrth deithio i gyfarfodydd gyda chleientiaid a chyflenwyr
- edrych ar y posibilrwydd o gael llaethdy lleol i ddanfon poteli llaeth ailddefnyddiadwy i'r swyddfa
- cymryd rhan mewn mwy o ddigwyddiadau cymunedol ar gyfer yr amgylchedd, e.e. codi ysbwriel
- meddwl yn fwy cydwybodol am yr amgylchedd wrth gyflawni gweithgareddau busnes bob dydd
Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.