Stiwdio brandio a dylunio newydd yn lansio yn Ne Cymru, i helpu darpar entrepreneuriaid sy’n ferched i ddatblygu brandio trawiadol ac effeithiol.
Stiwdio brandio a dylunio yn Ne Cymru yw Nel Creative, a gychwynnwyd gan Lauren Deakin. A hithau â mwy na deng mlynedd o brofiad creadigol gan gynnwys lleoliadau mewn coleg a phrifysgol yn ogystal â gweithio yn y diwydiant i frandiau amlwg, trodd Lauren at wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru am help a chyngor i lansio ei busnes ei hun.
- Cyngor cychwynnol ar lif arian, marchnata a statws cyfreithiol.
- Dechrau’n llwyddiannus a chreu un swydd.
Cyflwyniad i’r busnes
Asiantaeth greadigol a brandio yw Nel Creative, sydd yn arbenigo mewn brandio a darluniau creadigol, yn arbennig i ferched entrepreneuraidd.
Pam wnaethoch chi benderfynu dechrau busnes eich hun?
Penderfynais ddechrau fy musnes fy hun wedi i mi sylweddoli ‘mod i eisiau bywyd oedd yn gweithio i mi, ar fy nhelerau i. Felly, ‘doedd dim amdani ond cychwyn busnes yng nghanol pandemig...rydw i wrth fy modd efo her!
Meddyliais mor anhygoel fyddai defnyddio’r sgiliau rydw i wedi’u dysgu o fy ngradd greadigol ac wrth weithio yn y diwydiant ar brosiectau gwych i rai o fawrion y stryd fawr, ac ar brosiectau dylunio corfforaethol, i fod yn gweithio’n benodol gyda merched mewn busnes i godi eu brandiau i lefel uwch.
Gyda chefndir mewn dylunio creadigol, rydw i wedi gallu estyn fy llaw i sgiliau fel darlunio a theipograffeg, a’u gwneud yn rhan o fy musnes, sy’n rhoi gwedd unigryw i frandio gweledol client.
A dyna sut ddaru Nel Creative gychwyn, asiantaeth ddylunio a brandio greadigol i ferched mewn busnes!
Ers lansio, rydw i eisoes wedi cael cyfle i weithio gyda llu o ferched sy’n berchen ar fusnes: o drinwyr gwallt i harddwyr (gan gynnwys artist colur i’r sêr), merched sy’n hyfforddwyr (a welwyd yn The Huffington Post, Daily Mail, Forbes, Marie Claire a Vogue) hyd at berchnogion caffis a bwytai, dylunwyr ffasiwn a dylunwyr mewnol. Yr hyn sy’n gyffredin rhwng fy nghleientiaid yw nad oes ganddynt ofn bod yn nhw’u hunain na bod yn greadigol, ac maent yn deall pwysigrwydd brandio effeithiol fel sylfaen i’w helpu nhw greu busnesau llwyddiannus.
Pa heriau wnaethoch chi eu hwynebu?
Mae’n debyg mai’r her gyntaf a wynebais oedd y ffaith ‘mod i’n wych yn fy ngwaith (mae’r rhan fwyaf o berchnogion busnes yn dda yn eu maes neilltuol), ond ‘doedd gen i ddim clem am redeg busnes. Bu’n rhaid i mi ddysgu o’r newydd ond, diolch i’r drefn, rydw i wrth fy modd efo her ac rydw i hefyd wrth fy modd yn dysgu pethau newydd. Mae hyn oll, yn ogystal â’r awydd mawr i lwyddo, wedi helpu fy musnes i dyfu dros yr 8 mis diwethaf a chyrraedd ble rydw i nawr.
Cymorth Busnes Cymru
Bu Lauren mewn gweminar cychwyn busnes gan Busnes Cymru ble cafodd ei chyflwyno i’n hymgynghorydd cychwyn busnes, Alun Wade. Aeth Lauren ac Alun ati wedyn i weithio ar ei chynllun busnes a’i rhagolygon llif arian, er mwyn gwneud cais am gyllid.
Cafodd Lauren gymorth gan Alun efo amrywiaeth o agweddau ar fod yn hunan-gyflogedig, gan gynnwys cydymffurfiaeth, cofrestru, treth ac yswiriant, statws cyfreithiol, gwerthu a marchnata, fel y gallai Lauren lansio Nel Creative yn llwyddiannus a’i ddatblygu drwy ddenu cleientiaid pen uchaf mewn cwta wyth mis.
Deilliannau
- Cyngor cychwyn busnes ar lif arian, marchnata a statws cyfreithiol.
- Dechrau’n llwyddiannus a chreu un swydd.
Mae gweithio gydag Alun wedi helpu llawer iawn efo twf fy musnes, yn enwedig ar y cychwyn, gan nad oeddwn i’n gwybod ble i ddechrau. Mae Alun wedi bod yn barod i helpu ac yn graff ac wedi ateb unrhyw ymholiad neu gwestiwn oedd gen i ar hyd y ffordd. Roedd o wrth law i helpu pryd bynnag roedd angen, ac rydw i’n ddiolchgar iawn iddo am hynny. Mae o wedi fy nghadw ar lwybr cadarn fel ‘mod i wedi gallu cyrraedd fy nhargedau a symud ymlaen. Rydw i’n hyderus y bydd o’n gallu fy helpu os bydd unrhyw ymholiadau yn codi. Rydw i’n edrych ymlaen at barhau ar fy nhaith fusnes efo Alun ac yn gwybod y bydda’ i’n barod am beth bynnag ddaw nesaf.
Cynlluniau ac uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol
Credaf fod bob un ohonom yn unigryw a bod gennym ein goruwchbwerau ein hunain, felly mae angen i chi ddangos hynny. Sut arall ydych chi am fod yn wahanol i’ch cystadleuwyr? Rydw i’n gobeithio helpu mwy eto o ferched mewn busnes i weld beth yw eu goruwchbwerau o ran beth sy’n eu gwneud nhw’n wahanol ac yn amlwg. Mae Nel Creative yn tyfu mwy pob diwrnod ac rydw i’n edrych ymlaen at weld beth ddaw yn 2021. Rydw i eisiau ychwanegu at fy nhîm ac ehangu’r gwasanaethau rydw i’n eu cynnig, felly cadwch lygad!
I ddarllen mwy o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chi i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.