BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

RG Machinery Ltd

Mae’r cymorth gan Busnes Cymru, o ran cydymffurfio a phrosesau, wedi bod yn hynod werthfawr, ac wedi ein helpu i lwyddo.

Mae RG Tractors yn fusnes teuluol, wedi’i lleoli yn ne Cymru, sy’n arbenigo mewn gwerthu tractorau a pheiriannau fferm o safon. Roedd gan y cyfarwyddwr brofiad a dealltwriaeth o allforio, ond roedd angen cyngor a chymorth arno mewn perthynas â masnach ryngwladol yn y byd peiriannau fferm.

Aeth eu hymgynghorydd busnes ati i drafod ffyrdd o wella strategaeth marchnad newydd y busnes, gan gynnwys recriwtio, marchnata a phresenoldeb, a oedd wedi’u rhoi ar ben ffordd wrth fynd ati i feithrin partneriaethau newydd mewn tiriogaethau fel Iwerddon, America ac Ewrop.

Rhagwelwyd y byddai’r busnes yn tyfu, felly roedd trafodaethau ag ymgynghorwr busnes wedi profi’n allweddol ac wedi arwain at drafodaeth gyda Banc Datblygu Cymru, yn gwerthuso’r holl opsiynau ac anghenion cyllid y dyfodol.

Yn ogystal â hynny, mae RG Tractors wedi rhoi’r Addewid Cydraddoldeb, yr addewid Hyderus o ran Anabledd a’r Addewid Twf Gwyrdd ar waith, yn canolbwyntio ar lesiant staff a sut i fonitro defnydd ynni a dŵr er mwyn lleihau ôl-troed carbon y busnes, a chyflawni statws sero net.

Mae’n wych clywed bod RG Tractors wedi ymgymryd â’r cynllun KickStart, yn cynnig gwasanaeth mentora, hyfforddiant a mapio gyrfa i’w weithwyr, cynllun sy’n cynnig cyllid i gyflogwr er mwyn creu swyddi ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 24 mlwydd oed sy’n derbyn Credyd Uniongyrchol.

A hoffech chi werthu eich cynnyrch yn rhyngwladol?

Cysylltwch â’r tîm am gyngor allforio arbenigol Dechrau a Chynllunio Busnes | Drupal (gov.wales) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.