BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Sanctum Wellbeing

Sanctum Wellbeing

Rwyf wedi derbyn cymorth anhygoel, drwy gydol fy hyfforddiant hyd at ddechrau fy musnes fy hun a thu hwnt i hynny.

Roedd yr Adweithegydd cymwys, Louise Davies, yn benderfynol o adeiladu busnes i helpu eraill leihau eu lefelau straen, dod yn ôl at eu coed ac ymlacio. 

Roedd Louise yn hyfforddi fel therapydd Tylino Pen yn y Dull Indiaidd ac Adweithegydd Clinigol Lefel 5 pan drodd at Fusnes Cymru am wybodaeth a chyngor ar sut i fynd â’i syniad busnes yn ei flaen unwaith y byddai wedi cymhwyso. 

Darparwyd ystod o gymorth i Louise, yn cynnwys gwelliannau i strategaeth farchnata ac arweiniad ar lansio gwefan.

O ganlyniad i’r cyngor, roedd Louise yn hyderus i wneud cais am y Grant Rhwystrau Rhag Dechrau Busnes. Llwyddodd i sicrhau’r arian, felly lansiwyd y busnes Sanctum Wellbeing yn llwyddiannus, gan greu cyflogaeth lawn amser i Louise. 

A ydych chi’n barod i ddechrau eich busnes eich hun? 

Gall ein gwasanaeth sydd wedi'i ariannu’n llawn eich helpu i ddatblygu eich busnes delfrydol! I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol Mynnwch Gymorth | Business Wales (gov.wales) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.