BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Sewing with Style

Debra Drake

Rhoddodd Busnes Cymru’r arfau a’r hyder i mi sefydlu fy Ysgol Wnïo fy hun.

Rhoddodd y llwyddiant o gyrraedd rownd derfynol The Great British Sewing Bee ar y BBC a chael adborth mor gadarnhaol gan y beirniad hwb i Debra Drake ddechrau ei hysgol ddylunio ei hun sef  Sewing with Style

Rhoddodd Busnes Cymru'r arfau a’r hyder i Debra ddilyn ei diddordeb gydol oes o redeg ei busnes gwnïo ei hun.  Aeth i amrywiaeth o weminarau dechrau busnes, a wnaeth ddangos iddi sut i ddechrau busnes yn gyfreithiol a sut i greu cynllun busnes. 

 

Rhoddodd y gefnogaeth un i un a gafodd Debra gan ei chynghorydd arweiniad iddi ar amrywiaeth o agweddau ar fusnes yn cynnwys dechrau busnes, cyllid a chydymffurfiaeth busnes. 

 

Mae hyn wedi galluogi Debra i droi ei hobi yn fusnes sy’n masnachu! 

 

A ydych chi eisiau troi eich hobi yn fusnes? Cysylltwch â ni i ddechrau arni Mynnwch Gymorth | Business Wales (gov.wales) 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.