BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Shanti Retreats

“Mae’r cymorth ac arweiniad a gefais gan Busnes Cymru wedi bod yn fanteisiol iawn i mi ar fy nhaith fusnes hyd yma.”

Missing media item.

Roedd yr entrepreneur Eleri Hughes yn frwd dros greu balmau gwefus a diaroglyddion naturiol i’w gwerthu mewn marchnadoedd crefftwyr.

Cysylltodd Eleri â Busnes Cymru am gymorth dechrau busnes er mwyn cael syniad cyffredinol ynglŷn â sut i redeg busnes. Mynychodd ein gweminarau dechrau busnes a chafodd arweiniad un i un gan ei chynghorydd ar gynllunio busnes, marchnata, GDPR, rheoli cyllid, a chyfleoedd cyllid.

Roedd Eleri yn gymwys i wneud cais am y Grant Rhwystrau rhag Dechrau Busnes, sydd wedi’i deilwra ar gyfer unigolion 25 mlwydd oed a hŷn, ac adolygodd ei chynghorydd ei chynllun busnes ar gyfer ei gyflwyno ac, o ganlyniad, llwyddodd i gael y cyllid.

Gyda chyfuniad o gyngor arbenigol a chyllid wedi’i gymeradwyo, gallai Eleri ddechrau ei busnes, Shanti Retreats. Ers hynny, mae’r busnes wedi datblygu polisi amgylcheddol, cydraddoldeb ac amrywiaeth, gan adlewyrchu ei harferion cadarnhaol i’r amgylchedd, cwsmeriaid a’r gweithlu. Mynnwch Gymorth | Business Wales (gov.wales) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.