BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Spike the Blacksmith

Spike the Blacksmith

Dydyn ni byth yn stopio dysgu a gall pawb ohonom elwa o gael mentor!

Yn artist, gof, athrawes a mentor, mae Spike Blackhurst yn sicr yn gwybod sut i ymestyn ei doniau ar draws sawl llwyfan. Sefydlodd ei busnes, Spike the Blacksmith, yn 2003, gan greu darnau o waith anarferol ac unigryw. 
 
Yn ogystal â darparu gwahanol gyrsiau gwaith gof artistig o’i gweithdy ym Mhowys, mae Spike yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru mewn cydweithrediad â thîm Syniadau Mawr Cymru, yn mentora pobl ifanc fel model rôl entrepreneur busnes. 
 
Ar ôl rhai blynyddoedd o fasnachu, daeth Spike atom yn Busnes Cymru i sicrhau bod ei busnes yn datblygu ac yn tyfu i'r cyfeiriad cywir. 

Rhoddodd ei mentor gefnogaeth iddi gyda chynllunio busnes, cynllunio ariannol, marchnata a brandio, i sicrhau ei bod ar y llwybr cywir ar gyfer twf cynaliadwy. 

Yn ogystal, trafodwyd Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, a sefydlodd Spike yn dilyn hyn, gan gadw at arferion a gweithdrefnau Adnoddau Dynol, a oedd yn cynnwys darparu gwasanaeth i gwsmeriaid. 

Ymrwymodd Spike hefyd i roi Polisi Amgylcheddol ar waith i sicrhau bod y busnes yn gweithredu mewn modd cymdeithasol gyfrifol, drwy leihau ac ailbrisio deunydd pacio a thrafnidiaeth, a rhannu arferion da. 

A hoffech chi gael cymorth a chyngor ar gynllunio busnes? 

Cysylltwch â ni heddiw i drafod sut allwn ni helpu eich busnes i ddatblygu Dechrau a Chynllunio Busnes | Drupal (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.