BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Tyler Aromatherapy

Ellie Tyler

 

Mae Busnes Cymru yn frwd dros ddathlu busnesau bach yn rhagweithiol. Rwy’n sicr y byddant yn cynnig yr offer sydd ei angen arnaf i ffynnu.

Fel bydwraig gymwys, mae Ellie Tyler wedi profi effeithiau cynnyrch aromatherapi wrth godi calonnau cleifion a meithrin ymdeimlad o ymlacio. Wedi'i hysgogi i rannu’r buddion, lansiodd Ellie ei busnes Tyler Aromatherapi ym mis Ebrill 2021, yn cynhyrchu canhwyllau fegan a chynaliadwy, tryledwyr cyrs, halen ac olewon bath. 

Ar ôl masnachu’n llwyddiannus am 12 mis, trodd Ellie at Busnes Cymru am gyngor mewn perthynas â thyfu ei busnes a chyfleoedd allforio. 

Cafodd gymorth gan ei chynghorydd busnes wrth gynhyrchu strategaeth twf, yn canolbwyntio ar farchnadoedd targed a chodi ymwybyddiaeth brand er mwyn cynyddu gwerthiant. Gwnaethant hefyd drafod cyfeirio Ellie at Gynghorydd Masnach Ryngwladol er mwyn dechrau taith allforio’r busnes. 

A ydych chi’n awyddus i ddatblygu a thyfu eich busnes ymhellach? Gallwn eich cefnogi a'ch tywys drwy eich camau nesaf. 

Mynnwch Gymorth | Business Wales (gov.wales) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.