BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Vibes Yoga Bar

Owner Jenny Jarvis

Mae Busnes Cymru wedi fy helpu i wireddu fy nghynllun busnes, a rŵan rwy’n byw fy mreuddwyd.

Gan ei bod hi’n frwdfrydig iawn ynglŷn â’r syniad o ddarparu gofod diogel, di-straen i bobl ymlacio, penderfynodd Jenny Jarvis y byddai’n agor Stiwdio Ioga a Chaffi yng Nghaerdydd.

Er bod ganddi brofiad busnes blaenorol, daeth Jenny at Busnes Cymru am gymorth. Wedi iddi ymchwilio i ddarpariaethau ioga a bwytai iach yn yr ardal, llwyddodd Jenny i adnabod bwlch yn y farchnad. 

 

Bu i’w hymgynghorydd adolygu ei chynllun busnes a’i rhagolygon ariannol er mwyn darparu cefnogaeth busnes cyffredinol yn ogystal â rhagolygon gwerthiannau ar gyfer busnes newydd Jenny. 

Gyda chymorth a chyngor arbenigol ei hymgynghorydd, llwyddodd Jenny i agor ei busnes, Vibes, @vibesyogabar, ym Mae Caerdydd.

Hoffech chi wireddu eich breuddwydion busnes? Gallwn eich helpu i ddechrau eich menter busnes! Mynnwch Gymorth | Business Wales (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.