BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Wheelin Cab

Gill Scrimgeour standing in front of taxi

Dwi ddim yn gwybod beth fyddwn i wedi’i wneud heb y cymorth wnes i ei dderbyn gan Busnes Cymru i esblygu fy musnes, o fod yn syniad cychwynnol, i fod yn gynllun strwythuredig.

Rhywun sy’n deall pwysigrwydd cael tacsi sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn yw Gill Scrimgeour, oedd eisiau darparu gwasanaeth tacsi a oedd yn rhoi blaenoriaeth i deithwyr a chanddynt anghenion cymorth ychwanegol.

A hithau heb unrhyw brofiad blaenorol o redeg ei busnes ei hun, roedd Gill angen gwybodaeth ac arweiniad i’w galluogi i lansio ei busnes yn llwyddiannus. Mynychodd ein gweminarau Cychwyn a Rhedeg eich Busnes eich Hun, Dosbarth Meistr Marchnata ac ‘Emission Possible’, a ddarparodd arbenigedd busnes trylwyr ar ei chyfer.

Trafodwyd yr agweddau gwerthiant a marchnata yn helaeth gyda’i hymgynghorydd, cafodd gymorth i ganfod marchnad darged y busnes, ac i gynllunio strategaeth er mwyn cyrraedd y gynulleidfa iawn.

Mae’r cyngor a dderbyniodd wedi rhoi’r hunanhyder i Gill ddechrau ei busnes, Wheelin Cab. Mae’r busnes wedi cofrestru ar gyfer y cynllun Hyderus o ran Anabledd, sy’n helpu i newid agweddau tuag at anabledd mewn modd positif.

A fyddech chi’n hoffi troi eich syniad yn gynllun busnes? Mae ein tîm yn gallu darparu cyngor arbenigol sydd wedi’i gyllido’n llawn. Mynnwch Gymorth | Business Wales (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.