BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

You Are My Sunshine Services Ltd

You Are My Sunshine Services Ltd

Diolch i Busnes Cymru, rwyf wedi gwireddu fy mreuddwydion.

Gyda dros 20 mlynedd o brofiad yn y maes ymarfer gofal, roedd Anna Davies eisiau gwireddu ei breuddwyd o redeg busnes cynnig gofal.

Gyda chymorth ei hymgynghorydd busnes, mae hi bellach yn gyfarwyddwr You Are My Sunshine Services Ltd, gwasanaeth sy'n cynnig gofal iechyd meddwl ac anableddau dysgu, wedi'i sefydlu i ymateb i anghenion defnyddwyr gwasanaeth ar sail 24-awr.

Er mwyn rhoi ffocws clir i Anna ynghylch sut i ddechrau ei busnes ei hun, mynychodd ein gweminar Dechrau a Rhedeg eich Busnes eich hun, a oedd yn mynd i'r afael â marchnata, endid cyfreithiol, busnes a chynllunio ariannol. Aeth Anna ymlaen wedyn i elwa o arweiniad un-i-un pellach gan ei hymgynghorydd, a rhoddodd yr hyder a'r offer ychwanegol oedd eu hangen arni i ddechrau ei busnes ei hun wrth gydymffurfio â'r holl reoliadau.

Yn ogystal â hynny, mae Anna wedi llofnodi ein Haddewid Twf Gwyrdd, lle bydd ei busnes yn canolbwyntio ar ddefnyddio trafnidiaeth effeithlon, ac mae wedi addo i ofalu am lesiant staff a'r gymuned leol.

Mae Anna hefyd wedi elwa o gymorth gan ymgynghorydd tendro arbenigol, sydd wedi galluogi ei busnes i ddod yn rhan o fframwaith Cyngor Sir Benfro.

A oes angen cymorth arnoch chi i ddechrau eich busnes eich hun?

Cysylltwch â ni heddiw i drafod sut allwn ni eich helpu chi Dechrau a Chynllunio Busnes | Drupal (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.