BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Llywodraeth Cymru - wybodaeth ychwanegol am y Contract Diwylliannol

Beth yw'r 'Contract Diwylliannol'?

Bydd y dyfarniad ariannu yn cyd-fynd â'r cyd-destun polisi ehangach gan Lywodraeth Cymru, gyda chynnig i ddatblygu 'Addewidion Contract Diwylliannol', gydag ymgeiswyr yn cael eu hannog i ymrwymo i 'ddewislen' o ymrwymiadau i sicrhau bod buddsoddiad cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio gyda diben cymdeithasol. Bydd hyn yn rhan o'r 'Contract Economaidd' ac yn cynnwys meysydd fel:

  • Gwaith Teg
  • Amrywiaeth a chynhwysiant Byrddau Sector  – rhyw, yr iaith Gymraeg, cynrychiolaeth BAME ac ati.
  • Staff wrth eu cadw i gefnogi mentrau ehangach e.e. olrhain cyswllt i gefnogi Profi, olrhain, diogelu
  • Rhagnodi cymdeithasol
  • Cefnogi mentrau iechyd a chelfyddydau
  • Cydnerthedd hinsawdd

Bydd y contract diwylliannol yn helpu i gefnogi twf cynhwysol a gwell lles yn y diwydiannau diwylliannol a chreadigol. Mae'n adlewyrchu'r math o ymddygiadau y mae sefydliadau cyfrifol a llwyddiannus eisoes yn ymgymryd â hwy.

Bydd cymorth ar gael i'ch helpu chi i ddatblygu eich contract diwylliannol. Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal gweithdai i ddarparu gwybodaeth bellach am y dull a chyngor ar sut y gellir ei gymhwyso i'ch sefydliad.

I'w nodi: Mae'r Contract Economaidd yn cael ei adnewyddu ar hyn o bryd i sicrhau ei fod yn parhau i ddiwallu anghenion ei ddefnyddwyr yng nghyd-destun yr amgylchedd economaidd presennol. Egwyddorion y contract - megis cefnogi arferion busnes cyfrifol trwy ddarparu gwaith teg a chynyddu gallu i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd fydd prif ffocws y contract o hyd. Fodd bynnag, disgwylir y bydd rhai newidiadau i fframwaith y contract yn ystod y misoedd nesaf. Byddwch yn cael cyfle i ddefnyddio'r fframwaith newydd hwn pan fydd yn cael ei gyhoeddi os yw'n fwy addas i'ch sefydliad.

Mae gan Atodiad A fanylion pellach am y pedair colofn.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.