BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Contract Diwylliannol - Atodiad A

Atodiad A

Colofnau Contract Economaidd

Diffiniadau fel y maent yn ymwneud â'r contract diwylliannol   Enghreifftiau (Darluniadol ac nid   cynhwysfawr)

Potensial twf

Mae ffocws clir ar dwf y sefydliad i gefnogi gwydnwch mewn ymateb i effaith COVID-19, er mwyn sicrhau twf parhaus y sectorau diwylliannol a chreadigol yng Nghymru. 

Tystiolaeth ansoddol neu feintiol o sut mae'r sefydliad yn cefnogi twf trwy ei gadwyni cyflenwi.

Defnyddio offer prynwyr a chyflenwyr fel digwyddiadau GwerthwchiGymru a Cwrdd â'r Prynwr. 

Enghreifftiau o weithgaredd cadarnhaol i arallgyfeirio ac addasu gweithrediadau mewn ymateb i effaith pandemig COVID-19.

Cefnogi'r diwydiant llawrydd yng Nghymru.

Ad-leoli staff wrth gefn i gefnogi mentrau ehangach ee gwasanaeth olrhain i gefnogi Profi Olrhain Diogelu.

Gwaith Teg

Mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu diffiniad y Comisiwn Gwaith Teg o waith  teg - https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2019-05/gwaith-teg-cymru.pdf

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ymestyn cydfargeinio ac ehangu mynediad i undebau llafur fel y nodir yn - https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2018-10/brexit-a-thegwch-o-ran-symudiad-pobl.PDF

Yn ogystal, rydym yn disgwyl i bob sefydliad sy'n derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru i ymuno â'r Cod ar Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi , fel y bo'n briodol - https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2019-11/cyflogaeth-foesegol-mewn-cadwyni-cyflenwi-cod-ymarfer-arweiniad-hyfforddiant.pdf

Tystiolaeth o bolisi / arfer / achrediadau cwmni effeithiol sy'n berthnasol i waith teg, fel: 

  • Tystiolaeth o bolisi'r cwmni ar bolisïau sy'n cefnogi recriwtio teg, amrywiaeth yn y gweithle, a mynediad cynhwysol i'r gwaith. 
  • Cofrestru i God Ymarfer LlC ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi.
  • Amrywiaeth ar Fyrddau.
  • Camau i sicrhau nad yw’r cynnydd o ran amrywiaeth yn cael ei golli o ganlyniad i effaith COVID-19 .
  • Presenoldeb cydnabyddiaeth Undebau Llafur a chyd-fargeinio. 
  • Presenoldeb cynghorau gwaith effeithiol.
  • Camau cadarnhaol i hyrwyddo ac ymgorffori'r Gymraeg mewn gweithgareddau.

Hybu Iechyd, Sgiliau a Dysgu yn y gweithle

Ymrwymiad i ddarparu cyfleoedd i weithwyr ddatblygu sgiliau, galluoedd a dysgu fel rhan o'u datblygiad proffesiynol a / neu bersonol. Gall hyn gynnwys hyfforddiant a / neu hyfforddiant yn y gwaith y tu allan i'r gweithle gyda chefnogaeth y cyflogwr. 

Ymrwymiad i gefnogi gweithwyr i gadw'n heini ac yn iach fel y gallant aros mewn cyflogaeth, neu ddychwelyd i'r gwaith yn dilyn cyfnod o sawlch a / neu fuddsoddiad mewn mentrau cymunedol sy'n hybu iechyd corfforol a meddyliol. 

Tystiolaeth o bolisi / arfer cwmni effeithiol sy'n ymwneud â sgiliau, dysgu ac iechyd yn y gweithle.

Buddsoddwr mewn Pobl neu achrediad cydnabyddedig tebyg.

Tystiolaeth o ymwneud â rhaglenni / cynlluniau neu fentrau cymunedol sy'n hyrwyddo ac yn cefnogi sgiliau, dysgu, iechyd a lles yn y gweithle.

Cytundeb ar y cyd ag Undeb Llafur cydnabyddedig ynghylch sgiliau a dysgu a / neu bresenoldeb Prosiect Cronfa Ddysgu Undeb Cymru (WULF).

Cymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n gysylltiedig â rhagnodi cymdeithasol.

Enghreifftiau o'r sefydliad yn cyflwyno neu'n cefnogi mentrau iechyd a'r celfyddydau.

Gweithgareddau sy'n ymwneud â hyrwyddo buddiannau diwylliant o safbwynt lles.

Ymgysylltu gwirfoddolwyr a / neu brofiad gwaith / lleoliadau myfyrwyr yn y sefydliad.

Camau cadarnhaol i hyrwyddo ac ymgorffori'r Gymraeg mewn gweithgareddau.

Cynnydd o ran Lleihau’r Ôl-troed Carbon 

Mae dealltwriaeth y sefydliad o'i allyriadau nwyon tŷ gwydr presennol a'i ymrwymiad i wella effeithlonrwydd adnoddau a rheoli a lleihau ei ôl troed carbon, fel rhan o hybu cynaliadwyedd y sefydliad.

Ar gyfer y contract diwylliannol dylai hyn hefyd gynnwys ystyried materion cynaliadwyedd amgylcheddol ehangach.

Polisi / arferion effeithiol sy'n dangos dealltwriaeth o ble mae'r sefydliad ar hyn o bryd a'r camau y mae'n eu cymryd i wella. 

Tystiolaeth o gamau i gefnogi lleihau ôl troed carbon a gwella cynaliadwyedd amgylcheddol. 

Cydnabod a gweithredu i fynd i'r afael ag unrhyw ganlyniadau amgylcheddol o fesurau a gyflwynwyd o ganlyniad i COVID-19 ee defnydd cynyddol o eitemau defnydd untro.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.