BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hysbysiad preifatrwydd hyfforddeion cynhyrchu Cymru Greadigol

Sut rydym yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol 

Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn disgrifio sut y bydd Llywodraeth Cymru yn casglu ac yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol unwaith y byddwch wedi cwblhau eich lleoliad ar un o'n cynyrchiadau a ariennir. 

Drwy ddod yn hyfforddai ar gynhyrchiad a ariennir gan Cymru Greadigol mae angen i Lywodraeth Cymru brosesu rhywfaint o ddata personol amdanoch. Bydd angen i ni brosesu eich enw, eich cyfeiriad e-bost a'ch cod post. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei rhannu â Llywodraeth Cymru gan y cwmni cynhyrchu ar ddiwedd eich lleoliad. Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data at ddibenion monitro a gwerthuso'r lleoliad. Caiff eich data personol ei brosesu fel rhan o dasg gyhoeddus Llywodraeth Cymru; hynny yw, monitro a gwerthuso effeithiolrwydd lleoliadau hyfforddeion er mwyn gallu parhau i gefnogi cyflogaeth yn y sector creadigol.

Byddwn yn defnyddio'r manylion cyswllt a ddarperir i:

  • Rhoi dogfen i chi a fydd yn rhoi dolenni a llwybrau defnyddiol i chi i waith yn y sector.
  • Rhoi ffurflen adborth i gasglu gwybodaeth am eich lleoliad. 
  • Cyhoeddi arolwg gwerthuso a fydd yn cael ei gwblhau'n wirfoddol. Dim ond i ddeall sut mae'r cyfle i weithio ar gynhyrchiad a ariennir gan y Llywodraeth wedi helpu i ddatblygu eich gyrfa yn y sector, gwella prosesau mewnol a mireinio polisi y bydd yr wybodaeth a gesglir o hyn yn cael ei defnyddio. Byddwn yn anfon yr arolwg hwn yn flynyddol am gyfnod o 4 blynedd ar y mwyaf.
  • Cadarnhau ble rydych yn byw. Elfen o'r rhagamodau ariannu yw bod yn rhaid i bob hyfforddai fyw yng Nghymru.  

Byddwn hefyd yn casglu adborth gan y cwmni cynhyrchu ar eich perfformiad yn ystod eich lleoliad. Diben casglu'r wybodaeth hon yw asesu pa mor llwyddiannus fu'r hyfforddeiaeth fel y gallwn barhau i wella a chefnogi'r diwydiant creadigol yng Nghymru.

Gofynnwn hefyd i chi ddarparu gwybodaeth am Gydraddoldeb ac Amrywiaeth. Nid yw hyn yn orfodol a bydd unrhyw wybodaeth a ddarperir gennych yn cael ei phrosesu ar wahân i unrhyw wybodaeth sy'n eich adnabod fel unigolyn (h.y. bydd yn ddienw). Dim ond er mwyn helpu i ddarparu gwell dealltwriaeth o gydraddoldeb ac amrywiaeth yn y sector y defnyddir y data hwn.

Eich hawliau


O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i gael gwybod am y data personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch chi ac i gael mynediad ato
  • ei gwneud yn ofynnol i ni gywiro gwallau yn y data hwnnw
  • i (mewn rhai amgylchiadau) wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu
  • i'ch data gael ei 'ddileu' (mewn rhai amgylchiadau)
  • i (mewn rhai amgylchiadau) gludadwyedd data
  • cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheoleiddiwr annibynnol dros ddiogelu data

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am yr wybodaeth sydd gan Lywodraeth Cymru a'i defnydd, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, gweler y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

E-bost: DataProtectionOfficer@llyw.cymru 

Manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.