BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

A oes siaradwyr neu ddysgwyr Cymraeg yn gweithio i dy fusnes?

Mae gwisgo laniard neu fathodyn gyda’r logo Iaith Gwaith yn ffordd wych o hysbysu cwsmeriaid dy fod ti a/neu dy staff yn siarad neu’n dysgu Cymraeg.

I dderbyn nwyddau ‘Iaith Gwaith’ am ddim, yr oll sydd angen ei wneud yw:

  1. Mewngofnodi neu greu cyfrif ar wefan Helo Blod drwy gofrestru gyda SOC yma
  2. Dewis ‘Cais Newydd’ o fewn dy gyfrif Helo Blod a Fi
  3. Dewis ‘Mae gen i gwestiwn/ymholiad’ ac yna dilyn y cyfarwyddiadau

A dyna ni – bydd Helo Blod yn gwneud y gweddill!

Cofia, mae Helo Blod yn cynnig llawer iawn mwy na hyn. Gallwn gynnig cyngor ymarferol ar sut i farchnata a hyrwyddo dy fusnes a gwneud y Gymraeg yn fwy gweledol yn dy siop, caffi, gweithdy neu ar dy wefan – mae’r cyfan am ddim!

Mae Helo Blod yn cynnig y gwasanaethau canlynol:

  • cyfieithu am ddim
  • gwirio testun
  • cyngor ac arweiniad

Mae defnyddio ychydig o Gymraeg yn mynd yn bell. Cer draw i’r wefan i ddarganfod mwy!


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.