Meet In Wales: Adolygiad Cyrchfan 2023.
Helpwch ni i rannu dyfodol digwyddiadau busnes yng Nghymru.
Mae Meet In Wales yn rhan o dîm Digwyddiadau Cymru, sy'n gyfrifol am ddatblygu a hyrwyddo Cymru fel cyrchfan digwyddiadau. Mae denu unrhyw fath o ddigwyddiadau i gyrchfan yn fenter gydweithredol. Mae'n ymwneud ag arddangos y gorau o bob bwyty, bar, gwesty, atyniad, canolfan gynadledda, siop goffi, profiad antur a diwylliannol.
Mae Meet In Wales yn ymgymryd ag adolygiad llawn o'r cynnig cyfredol o gynhyrchion a sgiliau Digwyddiadau Busnes yng Nghymru. Bydd hyn yn galluogi partneriaid i fanteisio ymhellach ar y gymuned digwyddiadau busnes a'r sector yng Nghymru. Er mwyn deall yr angen mewn;
- Hyfforddiant sgiliau
- Cymorth gwerthiant marchnata
- Gwasanaethau eiriolaeth
Rhan o'r ymgysylltiad a'r arolwg yw deall mwy am;
- Eich busnes
- Eich adnoddau sydd ar gael
- Eich lefelau ymgysylltu mewn gweithgareddau digwyddiadau busnes, os o gwbl
I'r perwyl hwn, rydym yn croesawu eich cyfraniad yn ein harolwg.
Mae'r arolwg hwn yn ymwneud â dod i adnabod cymaint o'r busnesau hyn â phosibl. Darganfod beth maent yn ei wneud, ble mae'r cryfderau, gwendidau a'r cyfleoedd, a gweld sut y gallwn ddod â'n gwybodaeth ar y cyd at ei gilydd i arddangos y gorau o Gymru.
Mae'r arolwg yn ddienw a dylai gymryd tua 10 munud i'w gwblhau.
Rydym yn annog ein cymuned digwyddiadau busnes i helpu i lunio'r naratif digwyddiadau busnes yng Nghymru.
I gymryd rhan yn yr arolwg cliciwch ar y ddolen ganlynol Meet In Wales: Adolygiad Cyrchfan 2023 Survey (surveymonkey.co.uk)
Os hoffech gynnal sesiwn un-i-un fanwl gyda'r tîm ymchwil drwy alwad ffôn neu alwad Teams/Zoom, nodwch fel rhan o ymateb yr arolwg.
Bydd yr arolwg yn cau 5yp Dydd Gwener 14 Gorffennaf 2023.