BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Blogiau

Adolygu a Gwerthuso

Dyw pethau byth yn digwydd yn union fel y bwriadwyd. Nid felly mae bywyd. Dyna pan bod angen proses ar bob busnes i adolygu a gwerthuso. Noder adolygu a gwerthuso. Dyw’r ddau ddim yr un fath – a dweud y gwir maen nhw’n wahanol iawn.

Mae adolygiad yn ymwneud â phwyso a mesur “ydyn ni’n ar y trywydd iawn o hyd?” a “beth sydd angen i ni ei wneud i fynd yn ôl ar y trywydd iawn?” Mae adolygiadau’n olrhain cynnydd – cynnydd yn erbyn eich cynlluniau gwreiddiol. Mae hynny’n golygu bod angen iddynt fod yn rheolaidd, bob mis fel arfer, ac mae angen iddynt ganolbwyntio ar gynnydd yn erbyn cerrig milltir (mae gan bob cynllun da gerrig milltir clir, rheolaidd).

Mae adolygiadau’n rhan o wneud i gynlluniau weithio’n iawn – nid yw’r broses gynllunio yn dod i ben gyda’r cynllun. Y cynllun yw’r dechrau – mae angen adolygiadau rheolaidd. Mae’n debyg i gapten llong yn cymryd darlleniadau neu blymio dyfroedd ar daith – er mwyn parhau ar y trywydd iawn a gwneud unrhyw addasiadau sydd eu hangen i gadw ar y trywydd hwnnw a chyrraedd pen eich taith ar amser (ac mewn achosion eithafol i newid cyfeiriad os oes cymylau stormus ar y gorwel).

Mae gwerthusiad yn wahanol. Nid yw’n adolygiad. Nid yw’n ymwneud ag aros ar y trywydd iawn a phwyso a mesur y daith a manteisio ar y dysgu - er mwyn helpu i benderfynu a ydym ni am ddilyn llwybr gwahanol y tro nesaf. Rhywbeth achlysurol yn hytrach na rheolaidd yw gwerthusiadau ac maent yn canolbwyntio ar y ‘darlun mawr’ - a oedd y strategaeth yn ddoeth, oedd yr adnoddau angenrheidiol gennym ni, oedd ein rhagdybiaethau’n gadarn, beth fydden ni’n ei wneud yn wahanol pe baem yn cael ein hamser eto? Mae gwerthusiadau’n eich helpu i ddysgu a gwella - maent yn eich helpu pan fyddwch chi’n ystyried datblygu strategaeth newydd i’r busnes neu os ydych chi’n mynd i’r afael â phrosiect newydd pwysig fel cyflwyno cynnyrch newydd neu fentro i farchnad newydd.

Ysgrifennwyd y blog gan Winning Pitch, sy'n brif bartner cyflawni ar gyfer Consortiwm Excelerator, sy’n rheoli Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

Mae manylion y Rhaglen ar gael ar y wefan Rhaglen Cyflymu Twf.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.