BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Adroddiad chwalu rhwystrau busnes rhag Sero Net

Net Zero concept

Dadansoddiad o’r rhwystrau allweddol y mae penderfynwyr ar gynaliadwyedd yn eu hwynebu mewn busnesau mawr, a’r atebion i helpu cyflymu cynnydd tuag at Sero Net.

Mae busnesau mawr o gwmpas y byd yn ymateb i her gosod targedau Sero Net: ym mis Tachwedd 2023, roedd dros hanner y 2,000 o fusnesau mwyaf y byd wedi gosod targedau Sero Net.

Fodd bynnag, nid yw’r trawsnewid sy’n ofynnol i gyrraedd targedau Sero Net yn rhan eto o fusnes yn ôl yr arfer. I bontio’n glir i Sero Net, mae’n rhaid i fusnesau amlinellu sut y byddant yn troi asedau, gweithredoedd ac, yn y pen draw, modelau busnes cyfan tuag at ostyngiadau allyriadau sy’n alinio â Sero Net.

Cynhaliodd Uned Deallusrwydd Sero Net yr Ymddiriedolaeth Carbon arolwg o dros 400 o uwch benderfynwyr ar gynaliadwyedd mewn busnesau mawr ar draws y Deyrnas Unedig, yr Almaen, yr Iseldiroedd, Sweden a Mecsico ynghylch y rhwystrau mwyaf rhag pontio i Sero Net.

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau’r ymchwil ac mae’n archwilio datrysiadau i helpu busnesau mawr i chwalu’r rhwystrau.

Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: Breaking business barriers to Net Zero | The Carbon Trust

Mae Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau rhagweithiol tuag at wella’u cynaliadwyedd, gan ddangos eu heffaith gadarnhaol ar y bobl a’r lleoedd o’u cwmpas, ynghyd ag ymuno â chymuned gynyddol o sefydliadau blaengar sy’n helpu Cymru i bontio i ddyfodol carbon isel. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Yr Addewid Twf Gwyrdd | Busnes Cymru (llyw.cymru) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.