BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Adroddiad Cyflwr Mentrau Cymdeithasol

Volunteers working at a social enterprise

Mae Social Enterprise UK wedi lansio eu hadroddiad ar Gyflwr Mentrau Cymdeithasol, sef ymchwil i’r tueddiadau a’r materion allweddol sy’n effeithio ar y mudiad busnesau cymdeithasol. 

Mae’r adroddiad newydd, o’r enw 'Mission Critical', yn dangos sector sy’n tyfu ac sydd nid yn unig yn broffidiol ac yn gynhyrchiol, ond sy’n wirioneddol arloesol. Amcangyfrifir bod 131,000 o fusnesau cymdeithasol ar draws y DU, gan gynrychioli bron i un o bob 42 o holl fusnesau’r DU – ac nid yn unig y maent yn helpu pobl a’r blaned, maent hefyd yn hybu’r economi, gyda throsiant o ryw £78 biliwn ac ailfuddsoddi £1 biliwn o elw yn eu cenadaethau hanfodol.

Mae’r ymchwil yn darganfod bod mentrau cymdeithasol hefyd yn parhau i chwalu rhwystrau rhywedd, hil a dosbarth rhag cyflogaeth, trwy amrywiaeth y gweithlu. Maent hefyd yn mynd i’r afael â materion amgylcheddol yn weithgar, gyda brwydro’r newid yn yr hinsawdd yn genhadaeth graidd i bron un o bob pump ohonynt.

Am wybodaeth bellach, dilynwch y ddolen ganlynol: The State of Social Enterprise | Social Enterprise UK

Hoffech chi ddechrau busnes sy’n gwneud gwahaniaeth? Gall Busnes Cymdeithasol Cymru eich helpu chi. Dysgwch ragor yma: Busnes Cymdeithasol Cymru (llyw.cymru)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.