BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Blogiau

Ail-droi’r Handlen

Mae angen i’ch busnes chi fod yn beiriant sy’n rhedeg yn llyfn.  Mae angen i bopeth fynd fel watsh, yn enwedig o ran cyflawni archebion cwsmeriaid. Felly, dylech safoni prosesau lle bynnag y bo hynny’n bosib.  Ewch ati i ddatblygu prosesau a gweithdrefnau – a chynnal yr un gweithdrefnau dro ar ôl tro.

Ond nid busnes fel’na ydy ein busnes ni, meddech chi!  “Mae popeth rydyn ni’n ei wneud yn bersonol, dydyn ni ddim yn gwneud cynnyrch safonedig. Y prosiect, nid y broses, sy’n bwysig i ni”. Iawn – efallai fod hynny’n wir. Ond bydd rhai achosion lle mae meddwl am y broses yn berthnasol.

Er enghraifft:

  • gweithwyr newydd – recriwtio a sefydlu
  • casglu arian parod – mynd ar drywydd arian dyledus
  • cynnal a chadw offer – cynllunio gwaith cynnal a chadw
  • dyfynbrisiau i gwsmeriaid – casglu’r holl ddata technegol angenrheidiol at ei gilydd
  • rhagfynegi gwerthiant – gweithio mewn “ffrwd gwerthiant”
  • ôl-werthiant – cysylltu â phob cwsmer ar ôl cyfnod penodol

Mae angen meddwl am brosesau mewn rhai meysydd ym mhob busnes. Nodwch y meysydd hyn, wedyn mynd ati i ddatblygu gweithdrefnau safonol wedi’u cofnodi a sicrhau bod pobl yn gweithio yn unol â’r prosesau hyn.  Peidiwch â cheisio ailddyfeisio’r olwyn. Mae’n llawer gwell ail-droi’r handlen – dro ar ôl tro. Fe wnewch chi arbed llawer o amser – ac arian.

Ysgrifennwyd y blog gan Winning Pitch, sy'n brif bartner cyflawni ar gyfer Consortiwm Excelerator, sy’n rheoli Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

Mae manylion y Rhaglen ar gael ar y wefan Rhaglen Cyflymu Twf.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.