BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Blogiau

Amddiffyn eich trysor

laptop

Os ydych chi'n gwneud pethau'n wahanol, yna bydd gennych ychydig o 'eiddo deallusol'. Mae'n rhan o beth sy'n rhoi mantais i chi yn y farchnad. Felly gwarchodwch ef - cyn i rywun arall ei ddwyn. Archwiliwch y posibilrwydd o ddefnyddio patentau, hawl dylunio, dyluniad cofrestredig, nod masnach, hawlfraint a chytundebau cyfrinachedd.  Wrth reswm mae cost ond gallai buddsoddi mewn diogelu eiddo deallusol fod yn un o'r buddsoddiadau gorau a wnewch erioed.

Nid yw ar gyfer cwmnïau mawr yn unig.

Hefyd, peidiwch â'i adael yn rhy hwyr. Mae cystadleuwyr, a gall cystadleuwyr, gyrchu eich eiddo deallusol llawer cynt nag a arferai fod yn wir; maen nhw'n mynd ar eich gwefan! Mae ffugio yn ddiwydiant enfawr ynddo'i hun - yn fwy nag incwm cenedlaethol y rhan fwyaf o wledydd. Nid yw diogelu eiddo deallusol yn berffaith - ond mae ffugwyr fel y mwyafrif o droseddwyr, maent yn tueddu i fynd am y targedau hawdd h.y. y rheiny heb unrhyw amddiffyniad. Felly, dylech amddiffyn eich eiddo deallusol, eich trysor.

Ysgrifennwyd y blog gan Winning Pitch, sy'n brif bartner cyflawni ar gyfer Consortiwm Excelerator, sy’n rheoli Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

Mae manylion y Rhaglen ar gael ar y wefan Rhaglen Cyflymu Twf.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.