BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Amrywiaeth ar Fyrddau Cyhoeddus ac mewn Penodiadau Cyhoeddus

Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, datblygwyd y prosiect hwn gyda’r nod o gynyddu cynrychiolaeth ar Fyrddau a Phwyllgorau Cyhoeddus.

Bydd dwy raglen yn benodol yn cefnogi pobl o gefndir ethnig lleiafrifol neu bobl ag anabledd, sydd â diddordeb mewn cael penodiad gyhoeddus:

  • Rhaglen i Ddarpar Arweinwyr: Ar gyfer pobl o gefndir ethnig lleiafrifol neu bobl ag anabledd, sydd eisoes â rhywfaint o brofiad arwain (e.e. llywodraethwr ysgol) ac a hoffai ddod yn aelod bwrdd ar gorff cyhoeddus yng Nghymru.
  • Arweinwyr Cyhoeddus y Dyfodol: Ar gyfer pobl o gefndir ethnig lleiafrifol neu bobl ag anabledd sydd â diddordeb mewn cael penodiad gyhoeddus ond nad oes ganddynt y sgiliau a’r profiad angenrheidiol i wneud cais eto. Bydd yr hyfforddiant yn rhoi cyfle i gyfranogwyr ddatblygu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i symud tuag at gael penodiad bwrdd ar gorff cyhoeddus.

Mae dwy raglen hefyd sy’n darparu hyfforddiant cyflwyno a hyfforddiant amrywiaeth a chynhwysiant i aelodau’r Bwrdd a’r rhai sy’n ymwneud ag ymgyrchoedd recriwtio penodiadau cyhoeddus:

  • Hyfforddiant Cynefino Byrddau: Ar gyfer aelodau bwrdd newydd (cyrff nad ydynt yn ymwneud ag iechyd). Bydd yr hyfforddiant yn rhoi’r wybodaeth allweddol sydd ei hangen ar y rhai a benodir i fyrddau cyrff cyhoeddus, a reoleiddir yng Nghymru, i gyflawni eu rôl.
  • Hyfforddiant Amrywiaeth a Chynhwysiant: Ar gyfer Cadeiryddion ac aelodau byrddau cyrff cyhoeddus yng Nghymru. Bydd yr hyfforddiant yn rhoi dealltwriaeth i gynrychiolwyr o – ddeddfwriaeth cydraddoldeb, y Model Cymdeithasol o Anabledd, addasiadau rhesymol, hiliaeth systemig/sefydliadol ac anghydraddoldeb hiliol.

I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol Representation Matters - Chwarae Teg


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.