BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Annog y cyhoedd i gymryd gofal wrth i’r tymheredd godi yng Nghymru

Mae Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru Chris Jones, yn annog pobl i gymryd gofal ychwanegol a chynllunio ymlaen llaw i ddiogelu eu hunain ac eraill, yn sgil rhybudd y Swyddfa Dywydd am wres eithafol.

Mae’r rhybudd Oren, sydd mewn grym ar gyfer dydd Sul 17 Gorffennaf, dydd Llun 18 Gorffennaf a dydd Mawrth 19 Gorffennaf, yn awgrymu y gallai’r tymheredd godi i'r tridegau canol mewn rhai ardaloedd yn nwyrain Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r gwasanaethau brys, awdurdodau lleol, ysgolion a busnesau i ddiogelu’r cyhoedd yn ystod cyfnod rhybudd y Swyddfa Dywydd.

I ddiogelu eich hun ac eraill:

  • Yfwch ddigon o hylif – mae yfed dŵr yn hanfodol gan fod eich corff yn colli mwy o hylif mewn tymheredd uwch.
  • Cynlluniwch ymlaen llaw ac arhoswch yn y cysgod – mae'n well osgoi'r rhan boethaf o'r dydd rhwng canol dydd a 3pm ac osgoi gwneud gweithgareddau awyr agored egnïol yn ystod yr amser hwn.
  • Gwisgwch sbectol haul ac amddiffynnwch eich corff rhag yr haul – bydd eli haul neu floc haul yn helpu i’ch atal rhag llosgi. 
  • I gadw'ch cartref yn oer, diffoddwch oleuadau ac offer trydanol os nad ydynt yn hanfodol, a chau llenni a bleindiau i gael cysgod mewn ystafelloedd.
  • Peidiwch â gadael plant ifanc, pobl oedrannus nac anifeiliaid anwes mewn ceir wedi’u parcio gan fod y tymheredd y tu mewn yn gallu codi’n uchel.
  • Er bod mynd i’r dŵr i oeri yn demtasiwn fawr, byddwch yn ofalus mewn dŵr agored fel afonydd a llynnoedd, a chadwch lygad ar blant.
  • Gwisgwch ddillad llac a het pan fyddwch yn yr awyr agored.

Os ydych chi'n poeni am unrhyw symptomau sy'n gysylltiedig â gwres, ewch i wefan GIG 111 - 111.wales.nhs.uk - i wirio'ch symptomau neu ffoniwch 111 i gael cyngor.

Mae'r rhybudd gwres eithafol yn debygol o gael effaith sylweddol ar draws cymdeithas:

  • Trafnidiaeth
  • Ysgolion a gofal plant
  • Gweithleoedd
  • Digwyddiadau
  • Sioe Frenhinol Cymru

I gael mwy o wybodaeth, ewch i Annog y cyhoedd i gymryd gofal wrth i’r tymheredd godi yng Nghymru | LLYW.CYMRU

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.