BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Archwilio Allforio Cymru 2024

 Global business, logistics, import, export, freight shipping.

Mae cynadleddau Archwilio Allforio Cymru Llywodraeth Cymru yn cael eu cynnal ddydd Iau 14 Mawrth 2024 yn Stadiwm Dinas Caerdydd a dydd Iau 21 Mawrth 2024 yn y Village Hotel – Chester St David's, Ewloe.

Mae'r cynadleddau yn dod ag Ecosystem Allforio Cymru ynghyd mewn un lle i ddarparu cyngor ac arweiniad ar bob agwedd ar allforio. Gydag arbenigwyr o bob cwr o'r byd yn bresennol gall cynrychiolwyr elwa o gyfarfodydd un-i-un gyda cynrychiolwyr o'r farchnad dramor o Japan yn y dwyrain i Awstralia yn y de ac UDA a De America yn y gorllewin.  

Ymunwch â seminarau arbenigol a byrddau crwn ar faterion allweddol am allforio, ymweld ag arddangoswyr ecosystemau sy'n cwmpasu cyllid, materion cyfreithiol a logisteg a fydd wrth law i drafod sut y gallant helpu eich busnes. Gallwch hefyd ymweld ag ardal allforio bwrpasol Llywodraeth Cymru sy'n rhoi cyfle ymarferol i fusnesau edrych ar ein platfform digidol yn ogystal â chwrdd â'n Cynghorwyr Masnach Rhyngwladol. 

Os yw eich busnes yn allforio ar hyn o bryd neu hyd yn oed ystyried mentro i farchnadoedd dramor newydd, trwy fynd i'r gynhadledd byddwch yn derbyn cyngor ac arweiniad ar bob agwedd ar fasnachu yn y farchnad fyd-eang.

Yr hyn sydd hyd yn oed yn well yw bod y digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim, felly peidiwch ag oedi cyn cofrestru i sicrhau eich lle yn un o'r cynadleddau trwy ddilyn y ddolen hon: Archwilio Allforio Cymru 2024 | Busnes Cymru - Allforio (llyw.cymru)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.