Mae Arloesi yn y Diwydiant Bwyd 2021 ar gyfer pobl sy’n arloesi yn y gymuned bwyd a diod, gan gynnwys busnesau newydd, BBaChau, academyddion, ymchwilwyr a busnesau sefydledig o bob maint.
Cynhelir y digwyddiad ar-lein ar:
- 3 Mawrth 2021 rhwng 9am a 12.15pm – Trends & Innovative R&D
- 4 Mawrth 2021 rhwng 9am a 12:15pm - Trends & Emerging Science
Pam mynychu?
- byddwch yn archwilio rôl deiet ar iechyd a maethiad, gan gynnwys trafodaethau am ymchwil a datblygu arloesol ar ddiwrnod 1 a gwyddorau newydd ar Ddiwrnod 2
- byddwch yn dysgu gan siaradwyr a fydd yn rhoi blas ar ddulliau technoleg ac arloesi ym maes bwyd a maethiad
- byddwch yn cyfnewid â chyfranogwyr eraill mewn trafodaethau grŵp
- byddwch yn clywed hysbysebion byr gan BBaChau arloesol ac academyddion yn y sector ac yn trafod bylchau mewn gwybodaeth a rhwystrau i arloesi
- byddwch yn cymryd rhan mewn trafodaethau a fydd yn llywio cyllid yn y dyfodol
Mae cyfle i wneud cais i gael hysbysebu eich syniad arloesol yn y digwyddiad. Gallwch wneud hyn drwy gyflwyno hysbyseb dau funud cyn 12 Chwefror 2021.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan y Rhwydwaith Trosglwyddo Gwybodaeth.