BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Arloesi yng Nghymru

stacks of coins with plant shoots

Ymunwch â Phrifysgol Caerdydd ar gyfer sesiwn ryngweithiol a llawn gwybodaeth, yn edrych ar y cyfleoedd ariannu yng Nghymru.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynllun cyflawni o’r enw Cymru’n Arloesi: Creu Cymru Gryfach, Decach, a Gwyrddach. Mae’n cynnwys nodau economaidd, er enghraifft ‘cynyddu nifer, effaith, amrywiaeth ac uchelgeisiau’r busnesau sy’n arloesi’n weithredol yng Nghymru’ a ‘Chynyddu swm y buddsoddiad mewn gweithgarwch ymchwil, datblygu ac arloesi ym mhob sector, gan sicrhau cyfran ranbarthol deg sy’n cyd-fynd â’r blaenoriaethau a’r cryfderau yng Nghymru'.

Er mwyn helpu i gyflawni hyn, mae amrywiaeth o gyfleoedd buddsoddi a chyllid ar gael i gefnogi sefydliadau.

Mae’r dasg o ymchwilio i gyllid ac ymgeisio am grantiau yn cymryd amser. Gall gwybod pa gyllid sydd orau ar gyfer eich sefydliad fod yn dalcen caled hefyd. Mae hyn oll yn cymryd amser ac adnoddau, sef pethau nad oes gan y rhan fwyaf o fusnesau at eu defnydd.

Ar 22 Mai 2024, mi fydd Prifysgol Caerdydd yn cynnal gweithdy Gwybodaeth am Gyllid Arloesedd, a’i nod fydd helpu sefydliadau i ymgyfarwyddo â'r mentrau cyllido sydd ar gael.

Yn y sesiwn hon fydd cyfres o gyflwyniadau, gan gynnwys:

  • Tîm Arloesedd Llywodraeth Cymru
  • Louise Jones, Rheolwr Rhanbarthol Cymru, Innovate UK
  • Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth
  • Enghraifft o astudiaeth achos

Ar ben y cyflwyniadau hyn fydd sesiwn holi ac ateb, yn ogystal â sesiwn trafodaeth grŵp, lle gall sefydliadau ddod ynghyd a thrafod heriau parhaus o ran arloesi, cyllid, neu gael mynediad at bartneriaid cydweithredol.

Dewiswch y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer y digwyddiad: Arloesi yng Nghymru / Innovating in Wales Tickets, Wed, May 22, 2024 at 9:30 AM | Eventbrite

Mae gan Innovate UK ystod eang o gyfleoedd cyllido sydd ar gael i fusnesau yng Nghymru er mwyn iddynt arloesi a buddsoddi mewn ymchwil, datblygu ac arloesi.

Gall tîm Arloesi Llywodraeth Cymru eich helpu i gael at y cyllid hwn a chefnogi eich busnes ymhellach: Business Wales Events Finder - CRISP24 - Cyfarfod Cymorth Ar-Lein (business-events.org.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.