BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Arolwg Arweinyddiaeth ymhlith Menywod yng Nghymru

mature business woman looking at a laptop

Mewn busnesau ar draws Cymru, mae bwlch parhaus rhwng y nifer o fenywod a dynion sy’n cyrraedd swyddi arwain. Crëwyd Grŵp Arweinyddiaeth ymhlith Menywod CBI Cymru y llynedd er mwyn mynd i’r afael â hyn. Bydd y Grŵp yn datblygu mentrau i gefnogi datblygiad gyrfaoedd menywod.

Un o’r mentrau hyn yw'r arolwg cynhwysfawr hwn, a ddyluniwyd gan CBI Cymru mewn cydweithrediad â Grŵp Ymchwil ac Arloesi Busnes Prifysgol De Cymru. Ei fwriad yw casglu data gwerthfawr ar sut mae busnesau Cymru yn cefnogi menywod sydd â’u bryd ar weithio mewn swyddi arwain.

Trwy lenwi’r arolwg byr hwn, gallwch gyfrannu'n uniongyrchol at newid cadarnhaol. Bydd eich ymatebion dienw yn ein helpu i ddeall y sefyllfa ar hyn o bryd ac i osod meincnod ar gyfer mesur cynnydd yn y dyfodol.

Gyda'n gilydd, gallwn greu amgylchedd tecach lle bydd menywod yn cael cefnogaeth a chyfleoedd i ffynnu mewn swyddi arwain.

Bydd yr arolwg yn cau ar 31 Gorffennaf 2024 am 5pm.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth ac i gwblhau’r arolwg: Women's Leadership in Wales Survey (jisc.ac.uk)

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ac yn cydnabod pwysigrwydd a chyfraniad entrepreneuriaid benywaidd i economi Cymru. Mae ein gwasanaeth Busnes Cymru yn cefnogi ac yn annog mwy o fenywod i sefydlu, i gynnal ac i ehangu eu busnesau yng Nghymru ac i gyrraedd eu llawn botensial. Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Cefnogi Merched yng Nghymru | Busnes Cymru (llyw.cymru)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.