BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Arolwg Busnes a'r Gadwyn Gyflenwi – Tata Steel

Tata Steelworks

Cyhoeddwyd ym mis Ionawr 2024 y byddai Tata Steel yn bwrw ymlaen â chynlluniau i gau'r ffwrneisi chwyth ar ei safle ym Mhort Talbot. Bydd cau'r ffwrneisi chwyth yn arwain yn uniongyrchol at ddileu nifer o rolau ar y safle, ac mae disgwyl i fwy o swyddi gael eu colli yn sgil yr effaith ar y gadwyn gyflenwi.  Mae hyn yn ergyd sylweddol i'r economi ym Mhort Talbot a'r cyffiniau, ac yn ehangach ledled De Cymru a thu hwnt.

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gweithio ar gynlluniau i gefnogi gweithwyr a busnesau yn y gadwyn gyflenwi y bydd y newidiadau hyn yn effeithio arnynt, ac i ddiogelu a thyfu'r sylfaen economaidd leol er mwyn sicrhau cyflenwad parhaus o gyfleoedd cyflogaeth o ansawdd da yn y dyfodol.

Fel rhan o'r gwaith hwn, mae'r Cyngor yn gweithio gydag awdurdodau cyfagos a sefydliadau eraill er mwyn deall y galw ar hyn o bryd, a'r galw disgwyliedig yn y dyfodol, am wahanol fathau o rolau a sgiliau cyflogaeth ymhlith y gymuned fusnes bresennol.

Ymarfer casglu gwybodaeth er mwyn cynorthwyo'r broses hon yw'r holiadur hwn. Bydd yn ein helpu i nodi anghenion busnesau lleol, asesu i ba raddau y gall y farchnad lafur leol amsugno gweithwyr a effeithir gan gynlluniau pontio Tata a deall pa raglenni hyfforddi neu ailsgilio sydd eu hangen i gefnogi cyflogaeth nawr ac yn y dyfodol.

Byddem yn ddiolchgar pe gallech ystyried cyfleoedd i'ch busnes gael budd o'r cyflenwad ychwanegol o weithwyr a fydd yn ymuno â'r farchnad lafur leol, gan gynnwys pob math o lefelau sgiliau a rolau – megis rolau proffesiynol, rolau rheoli, rolau technegol a rolau gwaith llaw. 

I gael rhagor o wybodaeth ac i gwblhau'r arolwg, dewiswch y ddolen ganlynol: Business and Supply Chain Survey (snapsurveys.com)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.