BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Arolwg Bwydo ar y Fron yn y Gweithle – Rhannwch eich Barn a'ch Profiadau!

Baby feeding bottles, milk and a teddy bear.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) eisiau annog menywod i fwydo ar y fron yn y gweithle. Mae arolwg byr wedi cael ei ddatblygu er mwyn helpu gyda hyn; bydd yn asesu a yw gweithwyr sy’n dychwelyd i'r gwaith ar ôl cyfnod mamolaeth yn teimlo bod ganddynt gefnogaeth i fwydo ar y fron, a bydd yn nodi pa gymorth y mae sefydliadau ei angen i gefnogi gweithwyr sy'n dychwelyd.

Gall eich ymatebion fod yn ddienw. Mae gan ICC ddiddordeb mawr ym marn a phrofiadau gweithwyr a oedd yn dal i fwydo ar y fron pan ddychwelon nhw o’u cyfnod mamolaeth, yn ogystal â barn a phrofiadau eu rheolwyr llinell. 

Rhannwch yr arolwg hwn â gweddill eich sefydliad i helpu ICC i gasglu’r wybodaeth a fydd yn llywio mentrau yn y dyfodol yn ogystal ag enghreifftiau o arfer da i’w rhannu â chyflogwyr ledled Cymru. 

Byddai ICC yn ddiolchgar pe gallech gwblhau'r arolwg erbyn 1 Awst 2024.

Gellir dod o hyd i wybodaeth ychwanegol am fwydo ar y fron a'r gweithle ar wefan ICC: Bwydo ar y Fron a'r Gweithle - Iechyd Cyhoeddus Cymru (nhs.wales) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.