Cysyllta gyda Helo Blod heddiw i archebu arwyddion Ar Agor/Ar Gau dwyieithog i dy fusnes.
Yn ogystal ag archebu laniardiau a bathodynnau Iaith Gwaith (sy’n dangos dy fod di a/neu dy staff yn siarad neu’n dysgu Cymraeg), mae nawr yn bosib archebu arwyddion Ar Agor/Ar Gau dwyieithog am ddim drwy wefan Helo Blod.
I archebu’r arwyddion, yr oll sydd angen ei wneud yw:
- Mewngofnodi neu greu cyfrif ar wefan Helo Blod drwy gofrestru gyda SOC yma
- Dewis ‘Cais Newydd’ o fewn dy gyfrif Helo Blod a Fi
- Dewis ‘Mae gen i gwestiwn/ymholiad’
- O dan ‘Hoffet ti archebu nwyddau (ee laniardiau a bathodynnau)?’ dewis ‘Hoffwn’
- Rho’r nifer yr hoffet ti ei archebu yn y meysydd priodol (a chofia gynnwys y cyfeiriad postio yn y blwch testun hefyd).
A dyna ni – bydd Helo Blod yn gwneud y gweddill!
Cofia, mae Helo Blod yn cynnig llawer iawn mwy na hyn. Gallwn gynnig cyngor ymarferol ar sut i farchnata a hyrwyddo dy fusnes a gwneud y Gymraeg yn fwy gweledol yn dy siop, caffi, gweithdy neu ar dy wefan – mae’r cyfan am ddim!
Mae Helo Blod yn cynnig y gwasanaethau canlynol:
- cyfieithu am ddim
- gwirio testun
- cyngor ac arweiniad
Mae defnyddio ychydig o Gymraeg yn mynd yn bell. Cer draw i’r wefan i ddarganfod mwy! gov.wales/heloblod/cy