BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Busnes chwaraeon newydd yn llwyddo diolch i Busnes Cymru

People playing pickleball

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhagor o arian ar gyfer ei chynllun i helpu pobl ddi-waith sy'n wynebu rhwystrau cudd rhag dechrau eu busnes eu hunain. 

Bydd yr estyniad i'r Grant Rhwystrau rhag Dechrau yn helpu 250 yn rhagor o unigolion di-waith. Mae 1,637 o bobl ddi-waith eisoes wedi cael eu helpu ers lansio'r rhaglen yn 2020.

Mae arolwg diweddar yn dangos bod 78% o'r rheini sy'n cael eu helpu i ddechrau eu busnes eu hunain yn dal i fasnachu ac ar gyfartaledd wedi bod yn rhedeg eu busnesau am ddwy flynedd. Mae hynny ychydig yn fwy na chanran yr holl fusnesau newydd ledled Cymru sydd wedi goroesi ddwy flynedd (74.5%).

Manteisiodd yr entrepreneur o Abertawe, Stephen Baker, ar y grant i’w helpu i drechu diweithdra a lansio busnes chwaraeon unigryw.

Aeth Stephen Frenz ati i lansio Seniors Pickleball a chyflwyno pobl dros 50 oed yn yr ardal i gamp hygyrch sy'n llesol i'r corff a'r meddwl ac sy'n gymdeithasol ac yn hwyl.

Ers lansio'i fusnes hyfforddi ym mis Medi 2022, mae cymuned Frenz Seniors Pickleball wedi tyfu o chwech i 125 o danysgrifwyr rheolaidd. Mae picl-bêl yn debyg i denis, yn yr ystyr bod chwaraewyr yn defnyddio padlau i daro pêl yn ôl ac ymlaen dros rwyd neu fwrdd, mewn gemau sengl neu ddwbl.

Doedd Stephen erioed wedi clywed am bicl-bêl tan iddo symud i UDA yn 2007 a dechrau chwarae'r gêm. Ers hynny ac ar ôl dychwelyd i Gymru, mae Stephen wedi glynu at y gamp fel ffordd o gadw’n egnïol ac o gadw golwg ar ei iechyd.

Cafodd Stephen wybod bod diabetes pobl hŷn arno ar ôl dioddef adwaith awto-imiwnedd yn ei hen weithle ac yn 2016 collodd ei waith. Ac yntau'n ei chael yn anodd cael hyd i swydd arall a oedd yn ei fodloni'n feddyliol ac yn ei helpu gyda’i iechyd, cysylltodd â'i ganolfan gwaith leol am help.

Meddai Stephen: "Digwyddais i sôn mod i'n dwlu ar bicl-bêl wrth fy nghyswllt yn y ganolfan gwaith ac fe ddywedodd wrtha i am gysylltu â Busnes Cymru, a dywedodd y rheini wrtha' i'n syth i wneud cais am y Grant Rhwystrau rhag Dechrau Busnes. Defnyddiais yr arian i brynu offer, llogi lleoedd yn Abertawe a'r cyffiniau i gynnal dosbarthiadau ac ennill cymwysterau hyfforddi.

"Gwnaeth y grant hefyd fy helpu i leddfu fy mhryderon ariannol. Heb y grant, ni fyddwn wedi gallu lansio fy musnes fy hun a dianc rhag diweithdra. Alla i ddim bod yn fwy diolchgar i Busnes Cymru am fy helpu i lwyddo fel busnes hunangyflogedig. Yn ogystal â helpu fy iechyd corfforol a meddyliol i, mae'r grant wedi helpu pobl eraill hefyd."

Yn ogystal â helpu Stephen i gael cyllid ar gyfer y busnes, gwnaeth y cynghorydd busnesau Graham Harvey helpu Stephen i ddatblygu cynllun busnes yn ystod eu cyfarfodydd un i un a'i gynghori i wrando ar weminarau Busnes Cymru ar bynciau fel cynllunio ariannol ac ymchwil i'r farchnad.

Yn y misoedd nesaf, bydd Stephen yn cydweithio â gwasanaethau cymdeithasol Abertawe i gyflwyno picl-bêl a'i fanteision adfywiol i ysgolion, canolfannau cymunedol a sefydliadau crefyddol. 

Mae'r Grant Rhwystrau rhag Dechrau Busnes ar gyfer pobl 25 oed a hŷn yn agored, i gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Grant Rhwystrau rhag Dechrau Busnes ar gyfer pobl 25 oed a Hŷn | Busnes Cymru (gov.wales) 

Darllenwch y datganiad llawn drwy glicio ar y ddolen yma: Busnes chwaraeon newydd yn llwyddo diolch i Busnes Cymru (llyw.cymru)

Os ydych o dan 25 oed, mae'r Grant Dechrau Busnes Pobl Ifanc yn agored i geisiadau  ar hyn o bryd. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.