Mae’r Adolygiad Busnes Oed-gynhwysol (Age-Inclusive Business Review), Busnes yn y Gymuned (BITC) yn adnodd hunan-asesu rhad ac am ddim, ar-lein i helpu i nodi bylchau ac amlygu cryfderau mewn perthynas â bod yn gyflogwr oedran-gynhwysol ac oedran-gyfeillgar.
Mae Busnes yn y Gymuned Cymru mewn partneriaeth ag Age Cymru yn darparu’r Rhaglen Age at Work, gan gefnogi busnesau i greu gweithleoedd lle gall gweithwyr hŷn ffynnu.
“Roedd Adolygiad Busnes Oed-gynhwysol Busnes yn y Gymuned (BITC) yn declyn hunanasesu defnyddiol sydd wedi helpu Ymddiriedolaeth yr Innovate Trust i nodi bylchau yn ogystal ag amlygu cryfderau yn ymagwedd ein sefydliad tuag at bolisïau ac arferion oed-gynhwysol.
Ar ôl cwblhau’r holiadur a gymerodd 25 munud, derbynion ni adroddiad wedi’i deilwra o argymhellion a helpodd i’n hysbysu a’n tywys ar ein taith tuag at ddod yn sefydliad mwy oed-gynhwysol.
O ganlyniad i’r argymhellion hyn, creon ni gynllun gweithredu oedran i ffocysu ein hymdrechion ac rydyn ni eisoes wedi cymryd nifer o gamau gweithredu, gan gynnwys darparu hyfforddiant menopos i’n rheolwyr, ychwanegu adnoddau lles ariannol i’n llwyfan gweithwyr, ac rydyn ni yn y broses o greu Rhwydwaith Gweithwyr sy’n Ofalwyr.
Ymunodd yr Innovate Trust â rhaglen Pobl Hŷn yn y Gweithle BITC i sicrhau ein bod yn gwerthfawrogi ein gweithwyr hŷn ac yn darparu’r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt. Drwy wneud hyn, rydyn ni wedi gwella’r gefnogaeth i’n gweithwyr o bob oedran.”
Eleri Cruchley-Jones, Swyddog Adnoddau Dynol: Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, Innovate Trust
I gofrestru ar gyfer gweithdai ar-lein rhad ac am ddim y Rhwydwaith Dysgu Oed-gynhwysol, ewch i’r ddolen ganlynol Eventbrite
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Age at Work Wales (bitcni.org.uk) neu ebostiwch jill.salter@bitc.org.uk
“Mae ymuno â Rhwydwaith Dysgu Oed-gynhwysol Busnes yn y Gymuned (BITC) wedi helpu STG Aerospace – busnes gweithgynhyrchu arbenigol yn y categori busnesau bach i ganolig eu maint – i ddeall y ffyrdd y gall gefnogi gweithio’n hŷn mewn bywyd yn rhan o strategaeth i greu gweithle amrywiol, cynhwysol a deinamig. Atgyfnerthodd y gweithdai bwysigrwydd a manteision recriwtio, cadw ac ailhyfforddi pobl dros 50 oed ar gyfer llwyddiant hirdymor ein busnes ac er budd yr economi ehangach.
Roedd y siaradwyr gwadd o gymorth aruthrol am gyfleu mewn ffordd realistig y mesurau oed-gynhwysol sydd wedi’u rhoi ar waith mewn sefydliadau eraill a helpodd hyn i ni ddeall sut roedd y rhain o fudd i’r sefydliadau yn ogystal ag adnabod yr heriau. Trafodwyd popeth o hyfforddiant rhagfarn ddiarwybod a grwpiau ffocws ar gadw staff, i raglenni addysg ariannol a chymorth adeg y menopos.
Roedd y pedwar gweithdy yn werthfawr ac yn ysbrydolgar tu hwnt. Trafodwyd nid yn unig llu o faterion, fel iechyd a llesiant, a lles ariannol, ond darparwyd awgrymiadau ymarferol hefyd ar gyfer gweithredu. Mae’r adnoddau ategol a ddarperir gan BITC, fel y Pecyn Cymorth i Gyflogwyr Oed-gynhwysol, wedi rhoi fframwaith adeiladol i ni i ddatblygu mentrau ar gyfer ein busnes wrth i ni fynd yn ein blaenau.”
Michael Steward, Pennaeth Adnoddau Dynol Byd-eang, STG Aerospace