Mae Prosiect Hwyluso STEM, sef cynllun peilot a gynhelir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ac a ariannir gan ymrwymiad Cymoedd Technoleg Llywodraeth Cymru, yn helpu i feithrin rhwydwaith o gydberthnasau rhwng busnesau lleol ac ysgolion.
Nod y prosiect yw creu rhaglen gydgysylltiedig o gefnogaeth sy'n canolbwyntio ar “ddiwydiant mewn ysgolion” mewn clwstwr o ysgolion ym Mlaenau Gwent, gan godi dyheadau dysgwyr a'u paratoi ar gyfer symud i fyd gwaith, wrth ychwanegu at gwricwlwm yr ysgol ar yr un pryd. Yr amcan yw defnyddio pynciau STEM i helpu i godi ymwybyddiaeth a dyheadau am yr hyn sy'n bosibl mewn gyrfaoedd, o ran ansawdd yr hyn a gynigir gan fusnesau lleol a chyfleoedd gwaith. Gall cyflogwyr ddarparu cyd-destun ymarferol ar gyfer amrywiaeth eang o brofiadau dysgu ym mhob rhan o'r cwricwlwm, gan ddangos y nifer mawr o gyfleoedd cyflogaeth a geir a chyfeirio pobl ifanc at y mathau o sgiliau y mae galw mawr amdanynt nawr, ac y bydd galw mwy amdanynt yn y dyfodol. Hyd yn hyn, mae 38 o fusnesau eisoes wedi ymrwymo i weithio gyda'r ysgolion.
Mae cysylltiadau rhwng busnesau a'r byd addysg yn hanfodol er mwyn sicrhau gweithlu'r dyfodol, i greu cysylltiad rhwng plant â’r ystod lawn o lwybrau gyrfa galwedigaethol ac academaidd sydd ar gael iddynt.
I ddysgu rhagor am y rhwydwaith Hwyluso STEM sydd ar waith ym Mlaenau Gwent ac i gofrestru eich diddordeb, cysylltwch â:
I ddysgu rhagor am brosiectau tebyg sydd ar waith ledled Cymru ewch i: