BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Busnesau – gwnewch gais nawr am hyd at £10,000 i helpu i leihau eich costau rhedeg

Eco concept, ecology, clean energy and environment protection.

Mae ceisiadau bellach ar agor i fusnesau micro, bach a chanolig yn y sectorau manwerthu, lletygarwch a hamdden gael cyllid i fuddsoddi mewn paratoi eu busnesau ar gyfer y dyfodol.

Bydd Cronfa Paratoi at y Dyfodol Llywodraeth Cymru gwerth £20 miliwn yn helpu hyd at 2,500 o fusnesau i fuddsoddi mewn technoleg ynni adnewyddadwy, gwella eu hadeiladau, ac uwchraddio systemau neu beiriannau i leihau'r defnydd o ynni.

Mae grantiau o rhwng £5,000 a £10,000 ar gael i fusnesau sydd wedi'u lleoli yng Nghymru sydd:

  • yn cyflogi rhwng 1 a 249 o bobl
  • wedi bod yn masnachu ers cyn 5 Ebrill 2023
  • yn rhedeg safle ag iddo werth ardrethol o £6,001 i £51,000
  • naill ai'n berchen ar safle'r busnes neu'n ei lesio gyda les o 3 blynedd fan leiaf sy'n para tan ar ôl 4 Ebrill 2026.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Cronfa paratoi at y dyfodol | Busnes Cymru (gov.wales)

Mae'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau wedi'i ymestyn i 12pm, 13 Mehefin 2024. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.